A allwch chi ddweud ychydig wrthym am eich sefydliad, yr hyn a’ch ysbrydolodd chi i’w ddechrau, a’i rôl o fewn y gymuned leol?
Roedd gan Gyngor Cymuned Trimsaran (CCT) gynlluniau i wella’r ardal hamdden o amgylch y ganolfan hamdden ers blynyddoedd lawer. Roedd yr ardal wedi dirywio ac nid oedd bellach yn addas i’r diben. Cynhaliodd CCT nifer o astudiaethau ymgynghori yn y gymuned leol a amlygodd yr angen am fan diogel i bobl ifanc gyfarfod, a gofod i deuluoedd eistedd a cherdded ar hyd llwybrau. Dangosodd yr astudiaeth hefyd yr angen am le i bobl gael ymarfer corff am ddim, ac am le diogel i blant a phobl ifanc chwarae gemau pêl heb achosi niwed i ddefnyddwyr eraill y parc.
O’r wybodaeth hon aeth CCT ati i greu achos busnes ar gyfer y gwelliannau i’r parc a fyddai’n cynnwys man chwarae amlddefnydd, rheseli beiciau, cwt ieuenctid, seddi a llwybrau, yn ogystal â champfa awyr agored.
Sut mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi cynorthwyo’ch sefydliad chi, a pha welliannau neu newidiadau penodol yr ydych chi wedi gallu eu gwneud gyda’r cyllid?
Mae’r cais llwyddiannus i’r Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi golygu y gallai CCT symud ymlaen i ddatblygu’r cynlluniau arfaethedig. Cwblhawyd y prosiect i ddarparu campfa awyr agored, man chwarae amlddefnydd a chwt ieuenctid, yn ogystal â rheseli beiciau, seddi a llwybrau yn hwyr yn 2024. Mae’r gwelliannau wedi gwella proffil yr ardal ac wedi darparu ardal ddiogel sy’n ateb y gofyn i’r gymuned ei mwynhau.
Mae’r gwelliannau wedi gwella’n fawr olwg y gofod cymunedol gan roi balchder i bobl yn eu hardal a gwneud Trimsaran yn lle gwell i fyw a gweithio ynddo.
Pa effaith y mae’r prosiect hwn wedi’i chael ar y gymuned leol hyd yma, a sut y mae hi wedi ymateb i’r gwasanaethau / gwelliannau yr ydych chi wedi’u cyflawni?
Gellir mesur effaith darparu offer newydd ar y gymuned trwy weld faint o gynnydd sydd wedi bod mewn ymarfer corff ymhlith plant, pobl ifanc ac oedolion, sydd yn ei dro yn codi safonau ffitrwydd ac iechyd.
Mae Trimsaran yn ardal o amddifadedd uchel ac un o’r dangosyddion allweddol yw iechyd. Mae’r prosiect hefyd wedi cael effaith weledol gadarnhaol ar yr ardal hamdden. Mae’r seddi a’r llwybrau’n ei gwneud yn groesawgar i bobl eistedd a siarad, ac mae’n ardal gymdeithasol a ddefnyddir yn aml tra bod y cwt ieuenctid wedi cynnig lle diogel i bobl ifanc gyfarfod. Mae’r prosiect wedi cael effaith gadarnhaol ar y gymuned ac wedi codi hyder o ran gwedd yr ardal a’r gymuned.