Rheoli Maetholion mewn Cynllunio a Datblygu
Yn yr adran hon
- Cynllunio a Datblygu Dalgylchoedd sy'n Sensitif i Faetholion
- Byrddau Rheoli Maetholion
- Cyfrifiannell Cymru
- Effaith Canllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru ar Asesiadau Amonia
Cynllunio a Datblygu Dalgylchoedd sy'n Sensitif i Faetholion
Ym mis Ionawr 2021, cyflwynodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) dargedau maetholion diwygiedig ar gyfer afonydd mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yng Nghymru. Nod y terfynau llymach hyn yw lleihau llygredd a diogelu ecosystemau dŵr croyw sensitif, yn enwedig yng ngoleuni newid yn yr hinsawdd, sy'n lleihau llif afonydd yn yr haf ac yn achosi llygredd.
O dan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, rhaid i awdurdodau cynllunio lleol sicrhau nad yw datblygiadau newydd yn cyfrannu at gyfoethogi maetholion pellach mewn dalgylchoedd Ardal Cadwraeth Arbennig sy'n methu.
Mae dros 60% o gyrff dŵr yng Nghymru bellach yn methu'r targedau hyn. Yn Sir Gaerfyrddin:
- Ardaloedd Cadwraeth Arbennig sy'n methu: Afon Teifi, Afonydd Cleddau, Afon Gwy ac Afon Wysg
- Ardaloedd Cadwraeth Arbennig sy’n pasio (hyblygrwydd cyfyngedig): Afon Tywi
Rhaid i unrhyw ddatblygiad newydd sy'n cynyddu gollyngiadau dŵr gwastraff mewn dalgylchoedd sy'n methu ddangos niwtraliaeth neu welliant o ran maetholion. Gall hyn gyfyngu ar y capasiti i gysylltu â'r system garthffosiaeth gyhoeddus. Cynghorir datblygwyr i ymgysylltu'n gynnar a defnyddio Cyfrifiannell Cyfrifo Maetholion Cymru Gyfan.
Pa gamau ydym wedi eu cymryd?
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymryd y camau canlynol i arwain ar reoli maetholion strategol:
Llywodraethu a Chynllunio
- Sefydlu Byrddau Rheoli Maetholion ar gyfer dalgylchoedd Teifi, Tywi a Chleddau
- Creu cynlluniau Rheoli Maetholion byw i nodi ffynonellau llygredd, modelu gostyngiadau maetholion angenrheidiol, a llywio buddsoddiad
- Cyhoeddi Strategaeth Niwtraliaeth o ran Maetholion a Chynllun Gweithredu Strategol wedi'i ddiweddaru
- Creu a llofnodi Datganiad o Dir Cyffredin i weithio ar y cyd ar draws ffiniau Awdurdodau Lleol a chyda Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru, a rhanddeiliaid eraill
Cymorth i Ddatblygwyr
- Creu Cyfrifiannell Cyfrifo Maetholion Gorllewin Cymru, wedi'i addasu o offeryn gwreiddiol Sir Gaerfyrddin sydd bellach wedi'i ddisodli gan Gyfrifiannell Cymru Gyfan
- Cyhoeddi canllawiau cyfrifiannell, adolygiad technegol, a chanllawiau lliniaru penodol i'r dalgylch
Datrysiadau Cymunedol a Thir
- Cefnogi ffermwyr sy’n denantiaid a thirfeddianwyr â chanllawiau, taflenni twyllo, a chyngor ynghylch cyllid i weithredu mesurau lliniaru
- Hwyluso monitro ansawdd pridd a dŵr ar y fferm i helpu i wella effeithlonrwydd, iechyd y pridd, a chadw maetholion
- Gweithio gyda gwyddonwyr dinasyddion ar draws dalgylchoedd Teifi, Tywi, a Chleddau gan ddarparu offer, hyfforddiant a chymorth
- Rydyn ni'n falch o fod wedi cyfrannu at ddatblygiad cynnar Prosiect Monitro Maetholion Teifi, sy'n cael ei arwain a'i gyflwyno gan Gyngor Sir Ceredigion. Rydyn ni'n parhau i gefnogi'r prosiect wrth i'r model hwn gael ei ehangu i ddalgylchoedd Tywi a Chleddau, gyda dangosfyrddau cyhoeddus yn cael eu datblygu.
Cydweithio a Digwyddiadau
- Cyd-gadeirio Grwpiau Cynghori Technegol y Byrddau Rheoli Maetholion mewn amaethyddiaeth, monitro a gwyddoniaeth dinasyddion
- Cymryd rhan mewn pedair Uwch-gynhadledd Trafod Llygredd Ffosffad cenedlaethol (2022–2024)
- Mynychu Sioe Sir Benfro, Gŵyl Afon Tywi, a Sioe Frenhinol Cymru, dewch i ymweld â ni i ddysgu mwy