Adnewyddu'r Ystafelloedd Newid Cymunedol presennol
Ymgeiswyr Prosiect: Clwb Rygbi Brynaman
Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy
Lleoliad: Brynaman
Mae'r prosiect hwn wedi ariannu cyfleusterau ystafelloedd newid newydd gan gynnwys meinciau, cyfleusterau cawod, goleuadau, system awyru newydd ac inswleiddio gwell.
Mae'r prosiect hwn yn golygu bod modd cynnal mwy o weithgareddau chwaraeon yng Nghlwb Rygbi Brynaman, ac yn gwella'r ddarpariaeth gyfredol o ran rygbi, pêl-droed a digwyddiadau parkrun. Mae'r cyfleusterau newydd yn cefnogi gwella llesiant corfforol a meddyliol y gymuned.
Mae'r newidiadau i’r ystafelloedd newid wedi cynyddu nifer y chwaraewyr yn y clwb lleol ac yn sicrhau bod pobl o bob oed yn cael cyfle i chwarae rygbi, gwaeth beth fo'u rhywedd, eu hil neu eu hanabledd.