Bws Bach y Wlad
Ymgeiswyr Prosiect: Cyngor Sir Gȃr
Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy
Lleoliad: Sir Gaerfyrddin
Sir wledig yw Sir Gaerfyrddin sydd â phoblogaeth wasgaredig. Mae'r prosiect hwn wedi cyflwyno gwasanaeth bws newydd o bentref i bentref i drigolion gwledig. Mae'r gwasanaeth bws lleol hygyrch hwn yn wasanaeth hollbwysig i'r rheiny sy'n byw mewn cymunedau ynysig. Mae'r gwasanaeth hanfodol yn rhedeg pum diwrnod gwaith yr wythnos gyda theithio am ddim a theithio am bris gostyngol i bobl ifanc.
I ddarganfod mwy gan gynnwys amserlenni: Bws Bach y Wlad