Canolfan Prosesu a Sychu Bwyd Trimsaran

Ymgeiswyr Prosiect: Tetrim Teas Cymru

Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy

Lleoliad: Trimsaran

Mae'r ganolfan prosesu a sychu bwyd yn hygyrch i fusnesau bwyd Cymru, busnesau lleol, unigolion a grwpiau cymunedol. Mae'r ganolfan sychu/prosesu bwyd yn caniatáu i nwyddau ffres fel ffrwythau, llysiau, perlysiau, blodau, microlysiau, madarch ac ati gael eu cadw. Bydd y prosiect hefyd yn rhoi ail fywyd i Neuadd Les y Glowyr, Trimsaran gan wella'r ardal gyfagos.

Mae mwy na 224m² o le gyda seilwaith ynni carbon isel neu ddi-garbon wedi'i creu yn ystod y prosiect hwn, a chynaliadwyedd yw ffocws y ganolfan prosesu a sychu bwyd.