Cynllun Adnewyddu Llifoleuadau Clwb Pêl-droed Tref Caerfyrddin

Ymgeiswyr Prosiect: Clwb Pel-droed Tref Caerfyrddin

Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy

Lleoliad: Caerfyrddin

Mae'r prosiect hwn wedi gosod llifoleuadau newydd gan nad oedd y goleuadau blaenorol yn bodloni meini prawf presennol Cynghrair Cymru Premier.

Mae'r cyllid yn golygu bod modd parhau i fodloni’r gofynion o ran hyfforddi a diwrnodau gemau, gan ddarparu sylfaen gadarn ar gyfer y dyfodol, ac yn gwella'r cyfleusterau ar gyfer pob grŵp oedran pêl-droed, clybiau pêl-droed lleol a'r gymuned ehangach.

Ers i'r goleuadau newydd gael eu gosod, mae 1,000 o bobl newydd wedi eu defnyddio.