Cynllun Effeithlonrwydd Gweithredol ac Adnewyddu Cae Clwb Pêl-droed Tref Caerfyrddin

Ymgeiswyr Prosiect: Clwb Pêl-droed Tref Caerfyrddin

Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy

Lleoliad: Caerfyrddin

Roedd angen atgyweirio cyfleusterau Clwb Pêl-droed Tref Caerfyrddin ac mae’r cyllid wedi'i ddefnyddio i adnewyddu'r System Annerch Gyhoeddus a gosod paneli solar.

Mae'r system yn cael ei defnyddio ar gyfer cyhoeddiadau yn ystod pob gêm yn y clwb (lle mae nifer uchel o'r bobl sy’n bresennol yn siarad Cymraeg) gan ei gwneud hi'n hanfodol bod pob gair yn glir.

Mae'r paneli solar wedi gwella effeithlonrwydd ynni, gan leihau costau cynnal a gwella cyfleusterau'r clwb.