Cynllun Gwella Chwarae Cymunedol
Ymgeiswyr Prosiect: Cyngor Cymuned Llangyndeyrn
Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy
Lleoliad: Pont-iets
Nid oedd y lle chwarae gwreiddiol a adeiladwyd yn y 1970au yn bodloni dyheadau modern plant a phobl ifanc ac nid oedd yn cael ei ddefnyddio’n aml.
Yn dilyn ymgynghoriad cadarn â’r gymuned, dewisodd y plant a'r bobl ifanc o ysgolion cynradd lleol yr offer sydd bellach wedi'i osod yn y parc. Mae hyn yn cynnwys chwyrligwgan cynhwysol ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn.
Mae'r parc wedi cael croeso mawr ac mae bellach yn cael ei ddefnyddio'n ddyddiol.