Draenio Gwell o'r Prif Gae a Gosod Llifoleuadau LED Newydd

Ymgeiswyr Prosiect: Clwb Rygbi Pont-iets

Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy

Lleoliad: Pont-iets

Roedd angen gwella system ddraenio’r cae rygbi ym Mhont-iets ac mae'r cyllid wedi sicrhau bod modd cyflawni hyn. Mae'r clwb yn hwb canolog i'r pentref a'r unig sefydliad ym Mhont-iets sy'n darparu cyfleoedd gweithgarwch corfforol awyr agored i oedolion, plant a phobl ifanc.

Oherwydd oedran a chyflwr y llifoleuadau presennol, mae goleuadau LED newydd wedi cael eu gosod i alluogi'r clwb i ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon.

Mae'r gwelliannau wedi cael croeso mawr gan yr holl gyfranogwyr a chefnogwyr, ac mae nifer y gwirfoddolwyr yn y clwb wedi cynyddu.