Ateb o ran trafnidiaeth dan arweiniad gwirfoddolwyr ar gyfer Cwm Gwendraeth
Ymgeiswyr Prosiect: Trafnidiaeth Gymunedol Dolen Teifi
Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy
Lleoliad: Cwm Gwendraeth
Mae bws mini 17 sedd cwbl hygyrch wedi’i brynu i fynd i’r afael â’r diffyg trafnidiaeth ar gyfer trigolion nad ydynt yn gallu cael mynediad at wasanaethau yng Nghwm Gwendraeth a thu hwnt. Mae'r gwasanaeth newydd yn chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo cynhwysiant a gwella ansawdd bywyd ar gyfer pob grŵp oedran.
Mae tîm o dros 50 o wirfoddolwyr wedi cael eu recriwtio a'u hyfforddi'n llawn i ddarparu'r gwasanaeth hanfodol hwn i dros 1000 o ddefnyddwyr newydd.