Gadewch i ni ddod at ein Gilydd

Ymgeiswyr Prosiect: Radio BGM

Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy

Lleoliad: Llanelli

Wedi'i leoli yn Ysbyty'r Tywysog Phillip, mae Radio BGM wedi bod yn gwasanaethu'r gymuned ers dros 50 mlynedd ac roedd angen moderneiddio'r cyfleusterau stiwdio yn sylweddol.

Mae'r cyllid hwn wedi cefnogi Radio BGM i brynu offer newydd, gan adnewyddu'r prif gyfleuster stiwdio gyda meddalwedd wedi'i huwchraddio, jingles, a gwelliannau cysylltedd digidol. Mae'r cyllid hefyd wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer offer darlledu awyr agored newydd ac wedi cefnogi eu gwirfoddolwyr i gynnal gwasanaethau Radio BGM.

Mae'r prosiect wedi cynyddu’r nifer sy’n ymgysylltu wrth i’r orsaf fynd i nifer o ddigwyddiadau cymunedol, ac wedi cynyddu nifer y gwirfoddolwyr. Mae hyn i gyd wedi helpu i sicrhau bod yr orsaf yn addas ar gyfer y dyfodol.