Gosod Trydan a Chaffi
Ymgeiswyr Prosiect: Rheilffordd Llanelli a'r Mynydd Mawr
Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy
Lleoliad: Cynheidre
Mae safle ymwelwyr Rheilffordd Llanelli a’r Mynydd Mawr yn agos iawn at lwybr beicio Dyffryn y Swistir rhwng Llanelli a Cross Hands.
Mae'r rheilffordd wedi cael cyllid i ddatblygu caffi newydd sy’n denu llawer o bobl sy'n defnyddio'r llwybr beicio ac mae wedi cynyddu nifer yr ymwelwyr a gwirfoddolwyr.
Mae dwy rôl ran-amser wedi'u creu i redeg y caffi.