Gwelliannau i'r ardal chwarae i blant
Ymgeiswyr Prosiect: Cyngor Cymuned Llangynnwr
Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy
Lleoliad: Llangynnwr
Roedd angen gwneud gwelliannau hanfodol i wynebau’r lle chwarae yn Llangynnwr sy’n cael ei ddefnyddio’n aml. Mae'r cyllid wedi sicrhau bod modd gwneud y gwaith.
Mae’r gwaith bellach wedi'i gwblhau ac mae wyneb y lle chwarae i blant bach yn gwneud y parc yn lle dymunol a deniadol unwaith eto, ac mae system teledu cylch cyfyng wedi'i gosod i helpu i fonitro ymddygiad gwrthgymdeithasol a fandaliaeth.
Mae'r gwelliannau wedi bod yn hanfodol o ran gwneud y parc yn ddiogel, ac mae'n parhau i fod yn rhan annatod o'r gymuned ac yn cael ei ddefnyddio’n rheolaidd ar gyfer digwyddiadau cymunedol.