Gwyrddio’r Tir
Ymgeiswyr Prosiect: Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy
Lleoliad: Sir Gaerfyrddin
Mae'r prosiect hwn wedi gweithio ochr yn ochr ag adran ystadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddatblygu lleoedd nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio digon fel canolbwynt ar gyfer prosiectau seilwaith gwyrdd sy’n cael eu datblygu y cyd â'r gymuned.
Mae partneriaid cymunedol a gwirfoddolwyr wedi datblygu eu sgiliau garddwriaethol ar bortffolio o safleoedd i greu mosäig integredig o fannau gwyrdd, sy'n adlewyrchu anghenion iechyd a llesiant grwpiau cleifion, staff a phartneriaid cymunedol.
Crëwyd cyfanswm o 2,150m² o fannau gwyrdd gan wella llesiant corfforol a meddyliol y gymuned.