Mabwysiadu Isafon
Ymgeiswyr Prosiect: Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru
Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy
Lleoliad: Sir Gaerfyrddin
Mae prosiect Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru, drwy gynnwys gwirfoddolwyr ledled Sir Gaerfyrddin, wedi gwella sgiliau pobl ac wedi rhoi'r wybodaeth, yr hyder a'r brwdfrydedd iddyn nhw weithio gyda'i gilydd i 'fabwysiadu' eu darn agosaf o afon.
Cafodd cyllid ei ddefnyddio i helpu Swyddog Mabwysiadu Llednant i gyflawni ei brosiect, ac amcangyfrifir bod o leiaf 2 dunnell o wastraff wedi'i waredu sydd wedi gwella iechyd afonydd Sir Gaerfyrddin yn sylweddol.
Mae dros 250 o wirfoddolwyr wedi helpu i wella bron i 200,000m o ddyfrffyrdd.