Parc Grenig: Llwybr at Gynaliadwyedd a Llesiant
Ymgeiswyr Prosiect: Clwb Pêl-droed Cwmaman
Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy
Lleoliad: Cwmaman
Mae Clwb Pêl-droed Cwmaman yn glwb rygbi sefydledig yng nghanol Dyffryn Aman a oedd angen gwelliannau.
Roedd gan y prosiect bedair elfen allweddol a oedd yn cynnwys: gosod goleuadau LED yn lle'r llifoleuadau presennol, diweddaru'r ystafelloedd newid gyda phaneli solar a batri, datblygu cae bach i gefnogi gemau ychwanegol a hyfforddiant, a gwella’r mannau gwyrdd y tu ôl i'r ddau brif gae.
Mae'r amrywiaeth o welliannau wedi cael croeso mawr ac mae nifer y defnyddwyr a nifer y gwirfoddolwyr sy'n cefnogi'r clwb wedi cynyddu. Mae dros 2,000m2 o fannau gwyrdd bellach wedi'u gwella a 40 o goed wedi'u plannu.