Parc Yr Enfys Llanboidy

Ymgeiswyr Prosiect: Cyngor Cymuned Llanboidy

Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy

Lleoliad: Llanboidy

Mae'r prosiect hwn, a ddatblygwyd drwy ymgynghori â'r trigolion, wedi creu lle chwarae a hamdden i oedolion a phlant yn y pentref lle nad oedd darpariaeth chwarae ar gael o'r blaen.

Cynigiodd llawer o'r gymuned eu hamser i adeiladu a gosod yr offer chwarae, gan gynnwys darn mawr o fatiau chwarae a osodwyd gyda chymorth gan y bobl ifanc. Mae yna barc newydd erbyn hyn sy’n darparu cyfleusterau i bawb, gan gynnwys lle chwarae ar wahân i blant bach ac iau.

Mae'r parc wedi cael croeso mawr ac mae bellach yn cael ei ddefnyddio’n rheolaidd.