Pêl-droed Stryd Actif

Ymgeiswyr Prosiect: Actif Chwaraeon a Hamdden

Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy

Lleoliad: Rhydaman

Mae Pêl-droed Stryd Actif yn brosiect arloesol a lansiwyd gan Actif Chwaraeon a Hamdden i integreiddio chwaraeon, yn enwedig pêl-droed, mewn amgylchedd cefnogol a chynhwysol. 

Mae'r cyllid wedi cael ei ddefnyddio i gefnogi’r rhai sy’n cymryd rhan yn ardal Rhydaman. Mae aelodau'n gwneud gweithgarwch corfforol rheolaidd wrth dderbyn arweiniad ar opsiynau tai. Mae hyn yn eu galluogi i gael ffordd iachach o fyw ac yn eu helpu o ran yr heriau sy'n wynebu'r gymuned ddigartrefedd.

Mae'r prosiect yn meithrin ymdeimlad o gymuned. Cafodd dros 30 o unigolion eu cefnogi yn eu datblygiad personol a gwybodaeth am opsiynau tai.

Mae'r prosiect wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr 'Menter Effaith Gymdeithasol Orau' WSA.