Platfform newydd yn yr orsaf reilffordd yng Nghyffordd Abergwili
Ymgeiswyr Prosiect: Rheilffordd Gwili
Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy
Lleoliad: Abergwili
Mae Rheilffordd Gwili yn atyniad mawr i dwristiaid yn y sir sy'n cael ei weithredu gan wirfoddolwyr yn bennaf.
Defnyddiwyd cyllid i greu'r platfform newydd sy'n gwella hygyrchedd a materion gweithredol, gan wella profiad yr ymwelwyr, a gwella'r safle treftadaeth. Gwnaed gwaith trydanol ac arwynebol i'r platfform hefyd, sy’n golygu ei fod yn gwbl weithredol ac mae bellach yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd gan deithwyr.
Ers i'r platfform agor mae nifer yr ymwelwyr a’r gwirfoddolwyr sy'n cefnogi'r elusen wedi cynyddu.