Pobl & Podiau

Ymgeiswyr Prosiect: Ymddiriedolaeth Sied Nwyddau Rheilffordd Llanelli

Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy

Lleoliad: Llanelli

Mae Ymddiriedolaeth Sied Nwyddau Rheilffordd Llanelli yn cael ei gweithredu fel hwb ar gyfer gweithgareddau diwylliannol, treftadaeth, cymunedol a menter.

Mae Cydlynydd Gwirfoddolwyr wedi'i benodi i reoli'r gweithgareddau cymunedol, sydd wedi galluogi cynnydd yn yr ystod o wasanaethau, gan gynnwys grwpiau cymorth amrywiol a chyrsiau hyfforddi achrededig. Mae'r podiau wedi gwneud mannau cynnes a chroesawgar ar gyfer grwpiau llai.

Mae clwb rheolaidd ar ôl ysgol a chyfleuster penwythnos ar gyfer pobl ifanc hefyd wedi'u creu ac yn ogystal, cwblhawyd gwaith adnewyddu to, ffenestri a llawr..