Prosiect Llesiant Cymunedol Pont-iets

Ymgeiswyr Prosiect: Cymdeithas Les Glowyr Pont-iets

Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy

Lleoliad: Pont-iets

Roedd angen moderneiddio Neuadd y Glowyr Pont-iets, ac mae'r cyllid wedi'i ddefnyddio i wella cysylltedd digidol, gan sicrhau bod wi-fi ar gael i bawb sy’n defnyddio’r neuadd. Mae system sain wedi'i gosod a dolen sain wedi'i phrynu i sicrhau cynhwysiant.

Mae byrddau newydd a gasebo wedi'u prynu ar gyfer y farchnad fisol leol sy’n mynd yn fwyfwy poblogaidd. Mae gwaith uwchraddio pellach yn cynnwys sgriniau digidol newydd, offer awyr agored, byrddau chwist newydd a gwelliannau i fannau awyr agored.

Ers y gwelliannau, mae dros ddwsin o ddigwyddiadau a channoedd o weithgareddau wedi’u cynnal, dros 50 o wirfoddolwyr newydd wedi'u recriwtio, ac mae llawer mwy o bobl yn defnyddio’r cyfleusterau.