Prosiect Llesiant/Ymgysylltu Cymunedol
Ymgeiswyr Prosiect: Angor
Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy
Lleoliad: Sir Gaerfyrddin
Mae Angor o'r farn bod canser, neu salwch sy'n cyfyngu ar fywyd, yn cael mwy nag effaith gorfforol yn unig a bod angen dull cyfannol i wella. Mae'r prosiect hwn yn gweithio'n agos gydag unigolion agored i niwed a'u teuluoedd i gefnogi eu llesiant ar ôl cael diagnosis. Cyflawnwyd hyn trwy ddatblygu eu sylfaen wirfoddolwyr a'u gwaith allgymorth.
Mae cyllid wedi cefnogi staff i recriwtio, hyfforddi a chefnogi dros 30 o wirfoddolwyr newydd, a rheolwr i oruchwylio'r prosiect.
Mae'r prosiect wedi bod yn bresennol mewn pum digwyddiad mawr ac wedi cynnal rhaglenni cyson ar gyfer dros 100 o ddefnyddwyr newydd.