Rhaglen Llesiant Cymunedol

Ymgeiswyr Prosiect: Baton Twirling Association Cymru

Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy

Lleoliad: Drefach

Mae dosbarthiadau gweithgareddau fel Thai-chi eistedd, dosbarthiadau ffitrwydd 50+, a Boxfit ar gael. I blant a phobl ifanc, mae'r ganolfan yn cynnig Clwb Deulu, Clwb Hwyl, Gwersyll Dawns a Chlwb Chwaraeon.

Cynhelir hwb cymunedol yn y ganolfan bob mis gyda sefydliadau fel Cyngor ar Bopeth Sir Gaerfyrddin, Hwb Bach y Wlad Cyngor Sir Caerfyrddin, Cymunedau am Waith a Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin Cymru. Mae llawer o aelodau o’r gymuned yn dod i’r Hwb ac mae wedi gwella mynediad at wasanaethau allweddol ar gyfer y gymuned wledig.