Tŷ Croeso, Bethlehem Newydd

Ymgeiswyr Prosiect: Capel Bethlehem Newydd Pwll-trap

Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy

Lleoliad: Pwll-trap

Nod y cynllun oedd trawsnewid Capel Bethlehem Newydd yn ganolfan i gymuned Pwll-trap a'i hanghenion; yn benodol canolfan i hyrwyddo gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg a'r defnydd o'r iaith yn y gymuned yn ogystal â gweithgareddau cymdeithasol, hamdden a lles. 

Trwy'r cyllid hwn, mae'r prosiect wedi gallu cyflogi rheolwr am flwyddyn, i osod y sylfeini ar gyfer hyrwyddo a threfnu'r defnydd o'r adeilad a'r adnoddau technegol. Maent hefyd wedi gallu prynu offer cegin a dodrefn angenrheidiol i wneud y gofod yn gwbl weithredol.