Dewisiadau teithio gwyrdd

Diweddarwyd y dudalen ar: 11/11/2024

Yn Sir Gaerfyrddin, mae dewis cerdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus mwy yn lle dibynnu'n llwyr ar geir yn ddewis cynaliadwy a all leihau ein hôl troed amgylcheddol yn sylweddol.

Trafnidiaeth yw'r drydedd ffynhonnell fwyaf o allyriadau carbon yng Nghymru. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wrthi'n datblygu mentrau i leihau'r allyriadau niweidiol hyn drwy wella hygyrchedd, fforddiadwyedd a chyfleustra ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus. Mae hyn yn annog preswylwyr i fabwysiadu dulliau teithio mwy egnïol, gan gyfrannu at gymuned fwy gwyrdd ac iachach.

Mae gennym ddyletswydd statudol o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 i ddatblygu, gwella a hyrwyddo llwybrau cerdded a beicio ar gyfer teithiau byr bob dydd, fel mynd i'r gwaith, yr ysgol, siopa ac ati.

Os nad yw'n bell, gadewch y car, a beicio neu gerdded yn lle hynny. Dyna'r dewis iachach i chi a'r amgylchedd. Arbedwch arian ar danwydd, costau rhedeg a pharcio a lleihau tagfeydd a llygredd aer.

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau