Gwella gwerth eiddo

Diweddarwyd y dudalen ar: 11/11/2024

Mae cartrefi ynni-effeithlon yn dod yn gynyddol ddeniadol i brynwyr, sy'n aml yn arwain at gynnydd posibl i werth eiddo.

Yn Sir Gaerfyrddin, mae ôl-osod eiddo hŷn i wella eu heffeithlonrwydd ynni yn fanteisiol o ran lleihau'r costau gweithredu'n sylweddol ac yn rhoi hwb i atyniad ac arwyddocâd hanesyddol y cartrefi hyn ar yr un pryd.

Trwy uwchraddio inswleiddio, gosod ffenestri ynni-effeithlon, ac ymgorffori atebion o ran gwresogi modern, gall perchnogion tai warchod cymeriad eu heiddo a'u gwneud yn fwy gwerthadwy mewn byd cystadleuol o ran eiddo tirol. Mae hyn nid yn unig yn gwella'r profiad byw i'r preswylwyr presennol ond mae hefyd yn cyd-fynd â nodau cynaliadwyedd ehangach, gan sicrhau bod treftadaeth bensaernïol Sir Gaerfyrddin yn cael ei chynnal ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau