Lleihau allyriadau carbon

Diweddarwyd y dudalen ar: 11/11/2024

Mae cyfran sylweddol o allyriadau carbon Sir Gaerfyrddin yn deillio o'r defnydd o danwydd ffosil fel olew a nwy, a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer gwresogi. Wrth i Gyngor Sir Caerfyrddin fynd ati i hyrwyddo atebion o ran ynni cynaliadwy i fynd i'r afael â'r mater hwn, gall ymdrechion unigolion i arbed ynni gael effaith wirioneddol.

Trwy gymryd mesurau rhagweithiol, megis defnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy, gwella inswleiddio, a defnyddio offer ynni-effeithlon, gall preswylwyr leihau eu costau ynni ar unwaith a lleihau eu hôl troed carbon ar yr un pryd. Mae'r ymdrechion hyn ar y cyd nid yn unig yn cyfrannu at amgylchedd iachach ond mae hefyd yn meithrin ymrwymiad gan y gymuned gyfan i gynaliadwyedd a defnyddio ynni mewn modd cyfrifol.

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau