Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud?

Diweddarwyd y dudalen ar: 23/09/2024

Erbyn 2025 bydd tua 148,000 o dai ledled Cymru yn derbyn mesurau ôl-osod i leihau colli gwres.

Mae gan Gymru gartrefi o bob maint a math, ac mae llawer ohonynt yn adeiladau hŷn. Mae gennym hefyd gyfran ychydig yn uwch o dai waliau solet o gymharu â gweddill y DU, sy'n golygu y gall ein tai fod yn ddrytach i'w hinswleiddio. Nid oes un dull sy'n addas i bob tŷ; mae angen gwerthuso pob tŷ yn unigol i ddod o hyd i'r ateb inswleiddio cywir. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar nifer o bolisïau i helpu pob un ohonom ôl-osod mesurau ynni-effeithlon yn ein cartrefi, gan ddechrau gyda thai cymdeithasol.  

Mae Llywodraeth Cymru yn helpu i inswleiddio cartrefi, gan weithio gydag awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol fel rhan o'r Prosiect Ôl-osod er mwyn Optimeiddio. Mae trydydd cam y prosiect eisoes ar waith a chafodd £60m ei ymrwymo iddo rhwng 2022 a 2023. Y nod yw gwneud tai cymdeithasol yn fwy ynni-effeithlon. Y nod yw gosod mesurau arbed ynni i leihau colli gwres mewn 148,000 o gartrefi ledled Cymru erbyn 2025.  

Mae'r cynllun Cartrefi Cynnes Nyth hefyd yn darparu cyngor effeithlonrwydd ynni am ddim ac mae'n cynnig pecyn o welliannau effeithlonrwydd ynni am ddim i aelwydydd sy'n poeni am filiau ynni.  

Erbyn 2025 nod y llywodraeth yw cynyddu cyfran y gwres trydan 3% i leihau'r defnydd o danwydd ffosil. Mae hefyd yn ceisio diwallu 100% o'i anghenion trydan drwy ddefnyddio ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035.

Erbyn 2025 bydd pob cartref fforddiadwy newydd yng Nghymru yn cael ei adeiladu i fod yn garbon sero net, a'r uchelgais yw bod datblygwyr yr holl gartrefi newydd yn mabwysiadu'r safonau hyn.

Bydd datblygwr ynni newydd sy'n eiddo i'r wladwriaeth yn adeiladu ffermydd gwynt i gynhyrchu pŵer sydd o fudd uniongyrchol i bobl yng Nghymru.

mwy o wybodaeth

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau