Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2023-2024
Amcan Llesiant 2
Galluogi ein trigolion i fyw a heneiddio’n dda (Byw a Heneiddio’n Dda)
Trosolwg cynnydd
Mae galluogi ein preswylwyr i fyw a heneiddio'n dda yn flaenoriaeth i'r Cyngor er mwyn cydnabod mai ased mwyaf y Sir yw'r bobl sy'n byw yma. Er bod incwm wythnosol gros wedi gwella'n sylweddol yn y Sir, credir bod dros draean yr aelwydydd yn dal i fyw mewn tlodi ac mae amddifadedd materol ar gynnydd. O ystyried hyn, mae'r Cyngor yn cydnabod yr angen i gefnogi aelwydydd i liniaru effeithiau tlodi a chostau byw cynyddol. Mae ein Cynllun Trechu Tlodi penodedig yn manylu ar y mentrau cymorth eang a'n hymrwymiad i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod preswylwyr yn cael y cymorth y mae ganddynt hawl iddo a mynediad at wasanaethau priodol.
Mae tai fforddiadwy o ansawdd da yn ogystal â buddsoddiad parhaus mewn tai presennol yn hybu iechyd a llesiant ac yn ffurfio sylfaen ar gyfer safonau byw gwell. Mae fforddiadwyedd tai yn y Sir yn cymharu'n gadarnhaol â chyfartaleddau cenedlaethol. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gellir gwneud mwy i wella mynediad at dai addas gan ganiatáu i breswylwyr fyw yn ardal eu magwraeth. Rydym yn parhau i gyflawni yn erbyn ein Cynllun Darparu Tai Fforddiadwy a'n Rhaglen Datblygu Adfywio Tai. Yn ogystal, er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng ail gartrefi, byddwn yn codi premiwm ar ail gartrefi ac eiddo sy'n wag yn y tymor hir. Bydd ein gwaith ar dai presennol a gwella argaeledd darpariaeth newydd ar draws ein cymunedau gwledig yn allweddol i alluogi cydnerthedd a chydlyniant cymunedol. Yn gadarnhaol, mae ein hymdrechion parhaus wedi gweld gwelliant parhaus yng nghanran yr aelwydydd sy'n cael eu hatal rhag bod yn ddigartref.
Gyda phobl yn byw'n hirach, bydd mwy o alw ar wasanaethau yn y blynyddoedd i ddod. Mae amrywiadau hefyd mewn disgwyliad oes iach rhwng dynion a merched ac mae lefelau Sir Gaerfyrddin yn is na'r cyfartaledd yng Nghymru. I gydnabod hyn, mae datblygu strategaeth atal yn cadarnhau ein hymrwymiad i ddull poblogaeth gyfan o atal, a disgwylir bydd hyn yn lleihau'r galw am ymyrraeth statudol. Y nod hirdymor yw helpu pobl i gynnal eu hannibyniaeth gartref cyhyd â phosibl, atal derbyniadau diangen i'r ysbyty a chefnogi'r broses o ryddhau pobl o'r ysbyty yn amserol er mwyn sicrhau bod y rheiny sydd angen gofal ysbyty da yn gallu cael hynny. Yn gadarnhaol ddigon, mae gwelliant nodedig wedi bod wrth i lai o bobl aros yn yr ysbyty am ofal cartref. Mae ymdrechion cydweithredol a gwasanaethau integredig rhwng Iechyd a Gofal Cymdeithasol hefyd wedi'u cryfhau, sy'n effeithio'n gadarnhaol ar lif ysbytai ac yn lleihau rhestrau aros.
I gydnabod bod sgoriau Llesiant Meddwl Oedolion yn gostwng, gwnaed buddsoddiadau yn y Gwasanaethau Iechyd Meddwl i ddarparu llwybr llesiant ar draws y Sir, gan ganolbwyntio ar ymyrraeth gynnar ac atal.
Mae nifer yr oedolion sydd â dau neu fwy o Ymddygiadau Ffordd o Fyw Iach wedi cynyddu ychydig, sy'n gadarnhaol ac yn adlewyrchu nifer y gwasanaethau iechyd a llesiant sydd ar gael i'n trigolion. Wrth ddarparu'r gwasanaethau hyn rhoddwyd cydnabyddiaeth i hygyrchedd gyda llawer o weithgareddau wedi'u cyflwyno mewn ffordd arloesol. Mae nifer yr atgyfeiriadau i'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff wedi cynyddu'n sylweddol, gyda 1,537 wedi dod i law yn ystod 2023/24, a chyfradd gwblhau uchel o dros 70% ar gyfer y rhaglen 16 wythnos.
Fel Cyngor, rydym yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau thematig a gwasanaeth canlynol:
- Blaenoriaeth Thematig Amcan Llesiant 2a: Trechu Tlodi
- Blaenoriaeth Gwasanaeth Amcan Llesiant 2b: Tai
- Blaenoriaeth Gwasanaeth Amcan Llesiant 2c: Gofal Cymdeithasol
Yn Gryno
Mae dros draean aelwydydd Sir Gaerfyrddin yn byw mewn tlodi ac mae'r rhan fwyaf o drigolion yn cytuno bod tlodi yn broblem yn eu hardal. Nod ein Cynllun Trechu Tlodi yw lleihau a mynd i'r afael â'r pwysau a'r heriau a achosir gan dlodi i drigolion a chymunedau lleol. Fodd bynnag, cydnabyddir bod llawer o'r ffactorau sy'n cyfrannu at dlodi yn gymhleth ac wedi gwreiddio'n ddwfn.
Mae fforddiadwyedd tai yn Sir Gaerfyrddin yn cymharu'n gadarnhaol ag awdurdodau lleol eraill. Mae hyn yn bwysig gan fod mynediad at dai fforddiadwy a phriodol yn hanfodol i gynnal ansawdd bywyd da. Yn unol â hyn, mae atal digartrefedd hefyd wedi gwella.
Mae incwm wythnosol gros wedi gwella'n sylweddol yn y Sir. Fodd bynnag, nid yw hyn bob amser yn golygu safon byw well pan gaiff ei ystyried yn erbyn pwysau chwyddiant a chostau byw sy'n codi'n gyffredinol. Ategir hyn gan ddata Incwm Gwario Aelwydydd sy'n rhoi syniad o 'les materol' ac yn parhau i fod yn is na chyfartaledd Cymru.
Sut ydyn ni’n gwneud?
Mae 34.6% o holl aelwydydd Sir Gaerfyrddin yn byw mewn tlodi, [1]mae hyn yn cyfateb i tua 28,730 o aelwydydd. Mae hyn yn ostyngiad bach ers y llynedd sy'n adlewyrchu tueddiadau a welwyd yn genedlaethol.
Bu cynnydd sylweddol yn yr enillion wythnosol Gros Cyfartalog yn Sir Gaerfyrddin[2], o £617.80 (2022) i £678.60 (2023) gyda'r ffigyrau ail uchaf yng Nghymru. Mae ffigyrau Sir Gaerfyrddin wedi bod yn uwch na chyfartaledd Cymru dros y blynyddoedd diwethaf. Rydym yn parhau i fod yn is na chyfartaledd y DU o £681.70.
Dangosodd ein harolwg preswylwyr 2023 fod cytundeb cyffredinol â'r datganiad; ‘Mae tlodi yn broblem yn fy ardal i’.
Am gynnydd a data ar y flaenoriaeth thematig hon gweler tudalennau 4-14 -
Yn Gryno
Cynyddodd yr amser cyfartalog i gwblhau atgyweiriadau tai cyngor yn sylweddol yn ystod 2023/24 oherwydd ôl-groniad o gyfnod Covid, diffyg deunyddiau, a chapasiti contractwyr. Fodd bynnag, aethpwyd i'r afael â'r materion hyn, ac mae'r ôl-groniad hirdymor wedi'i glirio i raddau helaeth.
Mae canran y rhent a gollwyd oherwydd bod eiddo'r Cyngor yn wag wedi lleihau'n sylweddol, sy'n welliant. Cyflawnwyd hyn drwy amrywiol newidiadau, gan gynnwys safon gosod newydd, gyda gwelliannau pellach wedi'u cynllunio.
Mae ein hymagwedd ragweithiol at roi cyngor ar dai, opsiynau tai ac atal digartrefedd yn parhau.
Rydym yn wynebu pwysau digynsail o ran tai ac er ein bod wedi gwneud yn dda i ymateb yn gyflym i'r gofynion cynyddol, mae angen i ni barhau i sicrhau ein bod yn gwneud yr ymateb hwn yn gynaliadwy yn y tymor hir. Mae pwysau tai sylweddol mewn amryw ardaloedd yn parhau e.e. ymagwedd "Neb heb help" Llywodraeth Cymru, cyflwyno Deddf Rhentu Cartrefi ym mis Gorffennaf 2022, gan gyflawni ein hymrwymiadau adsefydlu a'n pryderon parhaus mewn perthynas â cheiswyr lloches, yn enwedig plant heb oedolion. Mae angen i ni hefyd gynyddu ein hopsiynau ar gyfer Llety Dros Dro yn ein prif ganolfannau poblogaeth sef Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman.
Mae'r rhaglen datblygu adfywio tai yn parhau i ddarparu llawer iawn mwy o dai fforddiadwy i'w rhentu a'u gwerthu, bydd hyn nid yn unig yn cefnogi'r galw cynyddol am dai ond hefyd yn cyfrannu at dwf economaidd, cymunedau cynaliadwy, a'r economi werdd. Yn 2023/24, roedd y rhaglen yn canolbwyntio ar brynu cartrefi sector preifat, dod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd, a datblygu cartrefi newydd. Mae datblygiadau yn Heol Spilman, Caerfyrddin a hen adeilad yr YMCA yn Llanelli yn enghreifftiau o hyn.
Er mwyn taclo'r argyfwng ail gartrefi, mae'r Cyngor wedi penderfynu codi premiwm ar ail gartrefi ac eiddo sy'n wag yn y tymor hir, a'r disgwyl yw i'r ardrethi gynyddu dros y blynyddoedd nesaf.
Sut ydyn ni’n gwneud?
- Ar gyfartaledd, cymerwyd 27.6 diwrnod calendr i gwblhau'r holl atgyweiriadau i dai cyngor yn ystod 2023/24, ac roedd hwn yn gynnydd sylweddolar gyfartaledd y flwyddyn flaenorol, sef 6.3 diwrnod. Y prif reswm oedd targedu a chlirio hen waith oedd wedi cronni gan nad oedd modd ei gwblhau yn ystod Covid, yn ogystal â diffyg deunyddiau a chapasiti'r contractwr. Mae nifer yr atgyweiriadau a gwblhawyd hefyd wedi cynyddu'n sylweddol gyda chynnydd o 52% o lai na 21,000 o swyddi yn 2022/23 i dros 31,000 o swyddi yn 2023/24. Mae'r ôl-groniad o hen waith wedi'i glirio i raddau helaeth a dylai Fframwaith Gwaith ar Eiddo newydd a'n cynlluniau i gynyddu'r capasiti i wneud gwaith mwy ymatebol yn fewnol ein helpu i leihau'r amser mae eiddo'n wag.
- Mae % y rhent a gollwyd oherwydd bod eiddo'r Cyngor yn wag bellach wedi gostwng i 2.2%, o gymharu â 3.5% y flwyddyn flaenorol. Mae hyn bellach yn golygu bod bron i £1m y flwyddyn o rent ychwanegol yn cael ei gynhyrchu o'r 250 o dai ychwanegol sydd bellach ar gael. Cyflwynwyd sawl newid dros y 21 mis diwethaf i ysgogi gwelliant e.e. safon gosod newydd a chyflwyno tîm mewnol o weithwyr i wneud gwaith ar eiddo gwag, yn ogystal â chontractwyr allanol. Byddwn yn parhau i gymryd camau gwella pellach dros y misoedd nesaf.
- Rydym wedi gallu rhoi cartref i dros 1,000 o aelwydydd mewn tai fforddiadwy presennol neu newydd yn ystod 2023/24.
Am gynnydd a data ar y gwasanaeth hwn, gweler tudalennau 15-18-
Yn Gryno
Mae gwelliant nodedig wedi bod wrth i lai o bobl aros yn yr ysbyty am ofal cartref.
Mae'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff wedi arwain at gynnydd sylweddol mewn atgyfeiriadau.
Mae'r amser cyflawni ar gyfer gwaith Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl wedi gwella ychydig, ac mae nifer yr addasiadau a gwblhawyd wedi cynyddu.
Mae ymdrechion ar y cyd gyda chydweithwyr iechyd wedi cael eu cryfhau, yn enwedig drwy'r tîm Gartref yn Gyntaf, sydd wedi ennill sawl gwobr ac sy'n cael effaith gadarnhaol ar lif ysbytai a lleihau rhestrau aros.
Mae Strategaeth Atal yn cael ei datblygu ar draws ein Adran Cymunedau, gan ganolbwyntio ar ddull poblogaeth gyfan o atal, a disgwylir bydd hyn yn lleihau'r galw am ymyrraeth statudol.
Mae buddsoddiadau yn y Gwasanaethau Iechyd Meddwl wedi sefydlu llwybr llesiant ar draws Sir Gaerfyrddin, gan ganolbwyntio ar ymyrraeth gynnar ac atal.
Sut ydyn ni’n gwneud?
- Ddiwedd mis Mawrth 2024, roedd 7 o bobl yn aros yn yr ysbyty am ofal cartref, mae hwn yn welliant ar y ffigwr o 35 ar ddiwedd Mawrth 2023.
- Mae nifer yr atgyfeiriadau i'r Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff wedi cynyddu'n sylweddol, gyda 1,537 wedi dod i law yn ystod 2023/24, sef yr uchaf ers i'r cynllun ddechrau. Mae dros 70% (316/450) o'r rhai a ddechreuodd y cynllun wedi cwblhau'r rhaglen 16 wythnos yn ystod 2023/24, a dyma'r gyfradd gwblhau uchaf ers dechrau cofnodi data.
- Mae nifer cyfartalog y diwrnodau calendr a gymerwyd i ddarparu Grant Cyfleusterau i'r Anabl yn parhau i fod yn uchel ar 273 diwrnod yn ystod 2023/24, er bod hyn yn welliant bach ar 277 diwrnod y flwyddyn flaenorol. Roedd cynnydd o 14% yn nifer yr addasiadau gwblhawyd yn y flwyddyn o gymharu â 2022/23. Mae'r ôl-groniad o hen waith nad oedd modd ei gwblhau yn ystod Covid, yn ogystal â diffyg deunyddiau a gallu contractio bellach wedi gwella, ond mae'r galw am addasiadau'n uchel, ac mae angen gwneud gwaith ar gyfer anghenion cymhleth.
Am gynnydd a data ar y gwasanaeth hwn, gweler tudalennau 20-25 -