Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2023-2024
Amcan Llesiant 3
Gwneud ein cymunedau a’n hamgylchedd yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus (Cymunedau Ffyniannus)
Trosolwg cynnydd
Mae economi iach a gweithredol yn darparu'r sylfaen ar gyfer twf cynaliadwy, gwell safonau byw a datblygu cymunedau ffyniannus. Mae'r Cyngor yn cydnabod bod cyflogaeth deg ac ystyrlon, sylfaen fusnes ffyniannus a marchnad lafur fedrus yn sylfeini i economi iach, ac mae wedi ymrwymo i yrru'r agenda hon yn ei blaen. Mae'r adferiad economaidd yn dilyn cyfnod heriol Covid yn parhau ar gyflymder, fodd bynnag mae rhai heriau'n parhau. Mae incwm gwario aelwydydd yn parhau i fod yn is na'r cyfartaleddau cenedlaethol ac mae cyfraddau anweithgarwch economaidd dal yn uwch na'r cyfartaleddau.
Mae busnesau'n parhau i gael eu cefnogi drwy ystod o ymyriadau, gan gynnwys gwell mynediad i ofod masnachol, cyfleoedd rhwydweithio, mynediad at gyllid a mwy o ffocws ar sicrhau y gall busnesau fanteisio ar gadwyni cyflenwi lleol a chyfleoedd caffael. Mae gweithgarwch adfywio ehangach wedi gweld gwelliannau i ganol ein trefi gyda'r nod o gynyddu nifer yr ymwelwyr a denu buddsoddiad mewnol.
Mae ein cynlluniau cyflogadwyedd yn parhau i gefnogi'r rhai sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur, ac mae swyddi'n cael eu creu drwy ymyrraeth gan y Cyngor i sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at gyfleoedd i wella eu bywydau. Mae hyfforddi ac uwchsgilio i greu gweithlu wedi'i ddiogelu yn parhau ac mae cynnydd yn nifer y rhai sy'n gymwys i lefel 4 ac uwch.
Mae'r gwaith ar Bentre Awel yn parhau'n hwylus a bydd gan hynny fanteision pellgyrhaeddol i'r Sir, ac mae rhai ohonynt eisoes yn cael eu gwireddu drwy Fudd i'r Gymuned.
Mae'r gwaith yn parhau i fynd i'r afael ag un o'r rhwystrau cyffredin sy'n wynebu unigolion sydd am ddychwelyd i gyflogaeth neu ddod o hyd i waith drwy geisio cynyddu argaeledd gofal plant yn y Sir lle nad yw'r galw yn cael ei fodloni.
Mae'r Amgylchedd Naturiol yn elfen greiddiol o ddatblygu cynaliadwy. Mae'r Cyngor wedi datgan ei ymrwymiad i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur a bydd yn parhau i weithio tuag at fod yn Awdurdod Lleol Carbon Sero Net erbyn 2030, gan fynd i'r afael â'r materion sy'n sbarduno dirywiad yn ein bioamrywiaeth ac yn cefnogi adferiad natur. Gwelwyd cynnydd bychan yn lefelau Nitrogen Deuocsid, fodd bynnag, mae hyn yn dal yn is na chyfartaledd Cymru. Mae cam cyntaf y Strategaeth Wastraff ar waith ac mae newidiadau wedi arwain at gynnydd mewn ailddefnyddio ac ailgylchu perfformiad tunelledd sydd eisoes wedi rhagori ar y targed cenedlaethol oedd yn ddisgwyliedig erbyn 2025. Ar ben hynny, mae canran y gwastraff a anfonwyd i safleoedd tirlenwi wedi lleihau, gan weithio tuag at y targed Cenedlaethol o beidio ag anfon Dim Gwastraff i safleoedd tirlenwi erbyn 2025.
Mae ardaloedd o'r Sir yn agored i effeithiau negyddol yr argyfwng hinsawdd, yn enwedig llifogydd. Mae'r Cyngor wedi gweithredu ymyriadau drwy'r Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr a'r Cynllun Rheoli'r Traethlin i liniaru effeithiau llifogydd, sy'n bryder cynyddol ymhlith trigolion.
Mae'r Sir yn parhau i fod yn gadarnle strategol allweddol ar gyfer dyfodol y Gymraeg a chydnabyddir manteision cymdeithasol ac economaidd dwyieithrwydd yn eang. Mae ein 'Strategaeth i hyrwyddo'r Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin 2023-28' yn nodi'r hyn byddwn yn ei wneud i weithio tuag at adfer y Gymraeg yn y Sir drwy gynyddu'r niferoedd sy'n gallu siarad Cymraeg, cynyddu'r sefyllfaoedd lle gall pobl siarad Cymraeg, codi statws yr iaith, cefnogi cymunedau i gynnal yr iaith a thrwy gael effaith gadarnhaol ar symudiadau poblogaeth.
Mae cyfanswm troseddau yn Sir Gaerfyrddin wedi gostwng dros 14% yn ystod 2023/24, sy'n gadarnhaol. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth yn effeithiol i gynnal y cyfraddau isel hyn, a dangosir hyn drwy waith y diogelwch cymunedol, y Tîm Cydlyniant Cymunedol, a'r cydweithio sy'n ofynnol o ran y Ddyletswydd Trais Difrifol.
Mae cludiant a phriffyrdd yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi a chynnal ein cymunedau, gan ddarparu'r seilwaith hanfodol sy'n cysylltu pobl â'i gilydd, yn cefnogi mynediad at wasanaethau, ac yn cefnogi economi sy'n ffynnu. Mae'r Cyngor yn blaenoriaethu cynnal a chadw'r rhwydwaith priffyrdd o fewn ei fodd, fodd bynnag, gwneir darpariaeth arbennig yn ystod y gaeaf i sicrhau mynediad di-dor i wasanaethau hanfodol.
Mae'r Sir yn helaeth ac yn gymysg o ran ei thirwedd wledig/trefol, ac mae hyn yn peri heriau sy'n anodd mynd i'r afael â nhw, yn enwedig gyda llai o adnoddau. Rydym wedi parhau â'n gwaith i wella seilwaith ffyrdd a datblygu atebion trafnidiaeth ar gyfer ardaloedd mwy gwledig y Sir.
Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y bobl laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol ar ffyrdd Sir Gâr, gyda chynnydd o 66% o 2022 i 2023. Rydym wedi ymrwymo i wneud ffyrdd yn fwy diogel trwy weithio mewn partneriaeth, codi ymwybyddiaeth, addysg a hyfforddiant i wella sgiliau ac ymddygiad defnyddwyr ffordd.
Chwaraeon, hamdden, diwylliant a hamdden awyr agored yw curiad calon ein cymunedau. Mae'r gwasanaethau hyn yn darparu amrywiaeth o weithgareddau, cyfleusterau a rhaglenni iechyd a llesiant er mwyn cefnogi ein trigolion a'n cymunedau i fyw bywydau iach, diogel a llewyrchus. Yn debyg ddigon, mae hyrwyddo ein Sir fel lle deniadol a hyfyw yn fasnachol i ymweld â hi a buddsoddi ynddi yn ffactor allweddol o safbwynt economaidd a llesiant. Cyfrannodd ymwelwyr dros nos a dydd â'r Sir £597m i'r economi leol gan gefnogi 6,652 o swyddi amser llawn. Yn ogystal, mae ymweliadau â llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden wedi cynyddu'n sylweddol ers y flwyddyn flaenorol. Mae nifer o fentrau hamdden a llesiant arloesol hefyd yn cael eu darparu trwy amrywiaeth o fecanweithiau i sicrhau bod gan bobl ystod eang o opsiynau a chyfleoedd i fyw bywydau egnïol a chyfoethog.
Fel Cyngor, rydym yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau thematig a gwasanaeth canlynol:
- Blaenoriaeth Thematig Amcan Llesiant 3a: Adferiad a Thwf Economaidd
- Blaenoriaeth Thematig Amcan Llesiant 3b: Datgarboneiddio a'r Argyfwng Natur
- Blaenoriaeth Thematig Amcan Llesiant 3c: Y Gymraeg a Diwylliant Cymru
- Blaenoriaeth Thematig Amcan Llesiant 3d: Diogelwch Cymunedol, Cydnerthedd a Chydlyniant
- Blaenoriaeth Thematig Amcan Llesiant 3e: Hamdden a Thwristiaeth
- Blaenoriaeth Thematig Amcan Llesiant 3f: Gwastraff
- Blaenoriaeth Thematig Amcan Llesiant 3g: Priffyrdd a Thrafnidiaeth
Yn Gryno
Mae economi Sir Gaerfyrddin wedi gwella yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn dilyn cyfnod o ansicrwydd ac adferiad yn dilyn y pandemig. Cydnabyddir hyn wrth i ni symud tuag at weledigaeth economaidd o'r newydd sy'n anelu at ganolbwyntio ar y cyfleoedd sydd ar gael i ni, a'r heriau mae'n rhaid i ni eu goresgyn i wireddu twf economaidd go iawn.
Mae'r sir yn parhau i arddangos lefelau uwch na'r cyfartaledd o anweithgarwch economaidd, ac mae cyfraddau cyflogaeth yn parhau i fod yn is na'r cyfartaleddau cenedlaethol. Mae cyfraddau diweithdra wedi cynyddu ychydig ond yn parhau i fod yn is na'r cyfartaleddau cenedlaethol.
Bu gostyngiad mewn genedigaethau busnes a chynnydd mewn marwolaethau busnes, ond mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu cymorth i fusnesau i sicrhau eu cynaliadwyedd a'u gallu i arallgyfeirio ac uwchraddio.
Dros y tymor hir, mae Gwerth Ychwanegol Gros Sir Gaerfyrddin wedi tyfu'n gymharol araf. Er hynny, mae'r darlun diweddar yn fwy positif ers y pandemig, ac mae'r bwlch rhwng Cymru a'r DU wedi lleihau, ond mae dal rhywfaint o ffordd i fynd i leihau'r bwlch i'r lefel oedd ar ddechrau'r mileniwm.
Mae lefelau cymwysterau wedi gwella ac erbyn hyn mae llai o bobl sydd heb unrhyw gymwysterau o gwbl.
Sicrhawyd cyllid sylweddol gan Datblygu Economaidd, sy'n adlewyrchu cyflawniad sylweddol mewn cyllid allanol a buddsoddiad y sector preifat.
Cyfrannodd ymwelwyr dros nos a dydd gryn dipyn i'r economi leol gan gefnogi miloedd o swyddi amser llawn.
Sut ydyn ni'n gwneud?
Mae ffigurau cyflogaeth wedi cynyddu ychydig yn Sir Gaerfyrddin, ac ar ddiwedd Mawrth 2024 roeddent yn 72.0% o gymharu â 71.7% ar ddiwedd Mawrth 2023, er eu bod yn dal i fod yn is na chyfartaleddau Cymru a'r DU o 73.5% a 75.4%. Cynyddodd y ffigurau diweithdra ychydig i 3.0% ym mis Mawrth 2024 o gymharu â 2.9% ym Mawrth 2023. Mae hyn yn well na chyfartaledd Cymru a'r DU o 3.5% a 3.8%. Mae anweithgarwch economaidd yn Sir Gaerfyrddin yn parhau i fod yn uchel er gwaethaf gwelliant bach o 23.3% ym mis Mawrth 2023 i 21.7% ym mis Mawrth 2024, mae hyn yn uwch na chyfartaledd Cymru o 20.3% ac yn uwch o dipyn na chyfartaledd y DU o 17.7%.
Mae gan 46.3% o'r rheiny sydd rhwng 18 a 64 oed yn Sir Gaerfyrddin gymwysterau hyd at NVQ Lefel 4 neu uwch (Rhagfyr 2023), ac mae hyn yn welliant ar 40% y flwyddyn flaenorol ac yn uwch na chyfartaledd Cymru o 45.0%. Mae datblygu sgiliau a chymwysterau yn gwella cyflogadwyedd, yn rhoi hwb i ragolygon gyrfa ac yn creu marchnad lafur fedrus a galluog iawn. Mae hefyd yn sicrhau bod gennym weithlu sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Bu i ganran y rheiny heb gymwysterau yn Sir Gaerfyrddin leihau i 5.3% yn Rhagfyr 2023, o gymharu â 7% y flwyddyn flaenorol, sy'n llai o dipyn na chyfartaledd Cymru o 7.9%. Mae Sir Gâr ar y trywydd iawn o ran cyrraedd Carreg Milltir Dangosydd Llesiant Cenedlaethol Llywodraeth Cymru - 'bydd canran yr oedolion o oedran gweithio sydd heb unrhyw gymwysterau yn 5% neu lai ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn 2050'.
Mae genedigaethau busnes wedi gostwng o 820 yn 2021 i 630 yn 2022, ac mae marwolaethau busnes wedi cynyddu o 650 yn 2021 i 700 yn 2022.
Crëwyd 955 o Swyddi Uniongyrchol ac Anuniongyrchol gyda chymorth Adfywio yn ystod 2024/25, mae hwn yn ostyngiad ar ffigur y flwyddyn flaenorol, sef 1,466 ond mae peth oedi i ddechrau cyflawni uniongyrchol sylweddol a phrosiectau adeiladu a ariennir gan grant trydydd parti yn golygu y bydd y rhain nawr yn cael eu gwireddu yn 2024/25.
Cafodd 158 o unigolion eu cefnogi drwy gynlluniau cyflogadwyedd y Cyngor i ennill y cyflog byw gwirioneddol yn ystod 2023/24, ac mae hwn yn ostyngiad o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, sef 204. Roedd llawer o'r cleientiaid a gefnogwyd yn dal i dderbyn cyngor ac arweiniad ar ddiwedd y flwyddyn ariannol gan eu bod yn wynebu sawl rhwystr a chan fod ganddynt anghenion cymhleth. Felly, mae angen cymorth ychwanegol cyn iddynt gael mynediad i gyfleoedd cyflogaeth.
Sicrhawyd dros £35m o gyllid yn ystod 2023/24 gan Datblygu Economaidd trwy Fuddsoddiad Sector Preifat ac amrywiol geisiadau llwyddiannus am gyllid allanol.
Mae ymwelwyr dros nos a dydd yn cyfrannu £597m i'r economi leol gan gefnogi 6,652 o swyddi amser llawn.
Am gynnydd a data ar y flaenoriaeth thematig hon gweler tudalennau 3-15 -
Yn Gryno
Dros y chwe blynedd diwethaf rydym wedi lleihau ein hallyriadau carbon dros draean. Mae hwn yn gynnydd cryf yn y llwybr tuag at gyflawni ein hymrwymiad i uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer sector cyhoeddus Cymru sero net erbyn 2030 ac o ran cydweithio â phartneriaid lleol a chenedlaethol i gwrdd â'r ymrwymiad cyfreithiol i sicrhau Cymru sero net erbyn 2050.
Mae Sir Gaerfyrddin wedi buddsoddi mewn prosiectau ynni carbon isel, gyda chynnydd sylweddol mewn cynhyrchu ynni o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae'r ffigurau'n cymharu'n gadarnhaol â'r cyfartaleddau cenedlaethol.
Mae ardaloedd o'r Sir yn agored i effeithiau negyddol yr argyfwng hinsawdd, yn enwedig llifogydd. Mae'r Cyngor wedi gweithredu ymyriadau drwy'r Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr a'r Cynllun Rheoli'r Traethlin i liniaru effeithiau llifogydd, sy'n bryder cynyddol ymhlith trigolion.
Rydym yn gwneud gwahaniaeth i lawer o gymunedau gyda'n dadansoddiad risg llifogydd a'n datblygiadau achos busnes. Mae gennym well dealltwriaeth o risgiau mewn llawer o gymunedau drwy ddatblygu ein Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol. Mae'n rhaid i bob datblygiad gael system ddraenio gynaliadwy sy'n rheoli llifogydd ar gyfer datblygiadau newydd a'r gymuned gyfagos.
Sut ydyn ni'n gwneud?
Sir Gaerfyrddin yw un o'r siroedd mwyaf rhagweithiol yng Nghymru o ran buddsoddi mewn prosiectau ynni carbon isel. Mae hyn yn cadarnhau'r dull blaengar rydym yn ei fabwysiadu o ran mynd i'r afael â'r bygythiadau a achosir gan yr argyfyngau hinsawdd a natur. Mae'r data diweddaraf ar gyfer 2022 yn dangos bod cyfanswm o 8,104 o brosiectau yn Sir Gaerfyrddin yn cynhyrchu 333MW o ynni. Dyma'r drydedd lefel uchaf yng Nghymru ac mae'n gynnydd ar ffigurau 2021.
Mae llifogydd yn bryder yn Sir Gaerfyrddin, ac yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (2019), mae dros 15,000 o Fusnesau a Chartrefi mewn Perygl o lifogydd o afonydd, llanw neu ddŵr wyneb, gyda dros 5,400 o'r rhain mewn perygl canolig neu uchel. Mae bygythiad cynyddol yr argyfyngau hinsawdd a natur yn rhoi mwy o bwyslais ar yr angen am amddiffynfeydd llifogydd addas a chymesur i ddiogelu'r rheiny sy'n wynebu'r perygl mwyaf. Drwy Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr a Chynllun Rheoli Traethlin y Cyngor mae amryw ymyriadau wedi'u cwblhau, gan gynnwys gosod amddiffynfeydd newydd a gwella'r amddiffynfeydd presennol. Yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol mae lefel y pryder am lifogydd a fynegwyd gan ymatebwyr Sir Gaerfyrddin wedi cynyddu o 36.2% yn 2018/19 i 49.3% yn 2022/23. Mae hwn yn uwch na chyfartaledd Cymru, sef 44.7%.
Yn ein harolwg trigolion 2023, atebodd y gyfran fwyaf o ymatebwyr 'y naill na'r llall' pan ofynnwyd iddynt a oedd yr argyfwng hinsawdd yn cael sylw lleol. Gallai hyn awgrymu nad yw pobl yn ymwybodol o'r mesurau roddwyd ar waith. I'r rhai a atebodd, roedd ychydig yn fwy o bobl yn anghytuno na'n cytuno.
Am gynnydd a data ar y flaenoriaeth thematig hon gweler tudalennau 17-23 -
Yn Gryno
Mae'r Gymraeg a'i diwylliant yn gwneud Sir Gaerfyrddin yn unigryw. Mae ein cymunedau Cymraeg yn wydn; fodd bynnag, mae gostyngiad sylweddol yn nifer y siaradwyr wedi bod ar draws y Sir. Mae'r Canlyniadau hyn wedi cynyddu ymhellach bwysigrwydd hyrwyddo a normaleiddio'r defnydd o'r Gymraeg.
Wrth i Sir Gaerfyrddin ddioddef y golled ganrannol uchaf o siaradwyr Cymraeg o blith holl siroedd Cymru am yr ail ddegawd yn olynol, rhaid cymryd camau cadarn a hyderus fel yr amlinellir yn 'Strategaeth Hybu'r Gymraeg Sir Gaerfyrddin 2023-2028' i atal y duedd hon.
Sut ydyn ni'n gwneud?
Mae data'r Cyfrifiad ar gyfer 2021 yn dangos bod Sir Gaerfyrddin yn gartref i 72,838 o siaradwyr Cymraeg, sef 39.9% o'r boblogaeth.
Yn ein harolwg preswylwyr 2023, mae mwyafrif yr ymatebwyr yn cytuno ei bod yn bwysig hyrwyddo ac amddiffyn y Gymraeg.
242 aelod o staff wedi bod ar gyrsiau Dysgu Cymraeg o wahanol lefel rhwng Medi 2022 a Mehefin 2023 (Blwyddyn Academaidd), mae hyn yn uwch na ffigur y flwyddyn flaenorol o 227.
Am gynnydd a data ar y flaenoriaeth thematig hon gweler tudalennau 25-28 -
Yn Gryno
Gostyngodd cyfanswm y troseddau yn Sir Gaerfyrddin yn ystod 2023/24. Bydd gweithio mewn partneriaeth yn effeithiol yn helpu i gadw'r cyfraddau hyn yn isel.
Dangosodd arolwg preswylwyr 2023 fod y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn hoffi byw yn Sir Gaerfyrddin.
Roedd y rhan fwyaf o bobl yn cytuno eu bod yn teimlo'n ddiogel yn eu cymuned. Fodd bynnag, roedd rhywfaint o amrywio o ardal i ardal, er enghraifft cafodd Llanelli sgôr negyddol ar y cyfan.
Sut ydyn ni'n gwneud?
Roedd 99.13% o sefydliadau bwyd yn Sir Gaerfyrddin yn cyrraedd safonau hylendid bwyd yn ystod 2023/24.
Yn anffodus, dim ond 49% o fusnesau Safonau Masnach risg uchel a oedd yn agored i arolygiad fel rhan o raglen yn ystod 2023/24 gafodd eu harolygu. Y rheswm am hyn yw, yn ystod ail hanner y flwyddyn, bu cynnydd mewn ymchwiliadau troseddol risg uchel adweithiol a gwaith rhagweithiol proffil uchel i fynd i'r afael â gwerthu fêps yn anghyfreithlon ac i blant tan oed, lle roedd angen ailgyfeirio adnoddau o arolygiadau arferol. Blaenoriaethwyd yr holl adeiladau oedd yn weddill yn ystod chwarter cyntaf 2024-25
Am gynnydd a data ar y flaenoriaeth thematig hon gweler tudalennau 30-33 -
Yn Gryno
Bu cynnydd sylweddol mewn ymweliadau â llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden. Mae nifer o fentrau a datblygiadau mawr yn darparu mynediad at gyfleoedd sy'n diwallu anghenion amrywiol preswylwyr ac ymwelwyr.
Mae'r mentrau hyn wedi cyfrannu at lesiant preswylwyr ac ymwelwyr drwy hybu iechyd, lleihau effaith amgylcheddol, arbed costau, meithrin rhyngweithio cymdeithasol, a gwella seilwaith trefol, gan arwain at ansawdd bywyd gwell yn gyffredinol.
Sut ydyn ni'n gwneud?
Mae ymwelwyr dros nos ac ymwelwyr dydd yn cyfrannu £597m i'r economi leol gan gefnogi 6,652 o swyddi amser llawn.
Roedd dros 660,000 o ymweliadau â'n llyfrgelloedd yn ystod 2023/24 (mewn person ac ar- lein), sef gwelliant o 28% ers y flwyddyn flaenorol. Cyflawnwyd hyn drwy amryw ddigwyddiadau yn ein llyfrgelloedd dros y sir gyfan megis Clip Corner yn Llyfrgell Caerfyrddin, gan gynnig mynediad i filoedd o raglenni radio a theledu o archifau'r BBC, S4C ac ITV Cymru, ymweliadau Siôn Corn, gwneud torchau ac addurniadau, clwb gwyddbwyll a sioeau ffilm, ynghyd ag ymweliadau Diwrnod y Llyfr, sesiynau crefftau Sul y Mamau a'r Pasg a sesiynau paentio dyfrlliw. Mae ein hymweliadau digidol yn parhau'n uchel gyda chwsmeriaid yn elwa ar ein hystod o e-lyfrau digidol, e-lyfrau llafar, papurau newydd, cylchgronau ac apiau hyfforddi. Bu i nifer yr ymwelwyr â'n canolfannau hamdden yn ystod 2023/24 gyrraedd 1.6m am y tro cyntaf, sef cynnydd o 21% ers y flwyddyn flaenorol ac yn uwch na lefelau cyn Covid. Mae hyn hefyd wedi'i adlewyrchu yn y cynnydd yn nifer yr aelodau a'r nifer sy'n dysgu nofio ar y cyd â thwf da mewn gweithgareddau yn y gymuned. Mae buddsoddiad wedi bod yn digwydd mewn seilwaith, ac mae twf sylweddol wedi bod yn aelodaeth rhaglenni i ddosbarthiadau mewn mannau gwledig, yn enwedig Sanclêr a Llanymddyfri. Mae aelodaeth hefyd wedi tyfu yng Nghanolfannau Hamdden Caerfyrddin, Dyffryn Aman a Llanelli. Mae cynnydd wedi bod yn y nifer sy'n archebu ac yn defnyddio'r caeau newydd yn rheolaidd yn Nyffryn Aman. Mae canolbwyntio ar gadw aelodau a theyrngarwch wedi helpu i weld y niferoedd sy'n aros yn cynyddu, ac mae cael pobl i gyfeirio cyfaill wedi bod yn ysgogydd mawr ar hyd y flwyddyn.
Am gynnydd a data ar y gwasanaeth hwn, gweler tudalennau 35-37 -
Yn Gryno
Daeth cam cyntaf y Strategaeth Wastraff i rym ym mis Ionawr 2023, ac mae'r newidiadau hyn wedi arwain at gynnydd yn y tunelli a ailddefnyddir ac a ailgylchir, gan ragori ar y Targed Cenedlaethol yr oedd disgwyl ei gyrraedd erbyn 2025.
Mae'r gwastraff trefol cyfartalog fesul person nad yw'n cael ei ailgylchu wedi lleihau.
Mae canran y gwastraff a anfonir i'w gladdu wedi lleihau ymhellach, gan weithio tuag at y targed cenedlaethol o beidio ag anfon Dim Gwastraff i Safleoedd Tirlenwi erbyn 2025.
Mae'r Cyngor wedi gweithredu system gasglu newydd ar ymyl y ffordd, wedi cynyddu'r gwydr a gesglir ar ymyl y ffordd, ac wedi bod yn rhan o wasanaeth allgymorth cymunedol cynhwysfawr i hyrwyddo ailgylchu a chynaliadwyedd.
Mae ehangu ein prosiectau ailddefnyddio Eto hefyd yn cefnogi'r flaenoriaeth hon yn uniongyrchol trwy hyrwyddo effeithlonrwydd adnoddau, adferiad, atgyweirio ac economi gylchol o fewn y Sir.
Mae'r System Reoli ar gyfer Archwilio'r Amgylchedd Lleol (LEAMS) yn dangos gostyngiad bach mewn glendid strydoedd a chynnydd mewn lefelau sbwriel.
Mae'r Cyngor wedi gwella nifer cyfartalog y diwrnodau a gymerir i glirio achosion o dipio anghyfreithlon, er gwaethaf cynnydd yn nifer yr achosion.
Sut ydyn ni'n gwneud?
Mae ein ffigurau ailgylchu ar gyfer 2023/24 wedi gwella i 70.49% sydd eisoes yn uwch na'r Targed Cenedlaethol o 70% a bennwyd ar gyfer diwedd Mawrth 2025. Mae'r ffigurau cymharol diweddaraf a gyhoeddwyd ar gyfer 2022/23 yn dangos mai 65.71% oedd y gyfradd ailgylchu gyfartalog ledled Cymru, ac ar y pwynt hwnnw roeddem yn is na chyfartaledd Cymru sef 65.25%.
Mae % y gwastraff a anfonir i'w gladdu wedi lleihau ymhellach yn ystod 2023/24 a bellach mae lawr i 2.01%, felly ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed cenedlaethol o Ddim Gwastraff i Safleoedd Tirlenwi.
Cafwyd bron 4,000 o ymatebwyr i'n harolwg preswylwyr, er bod y mwyafrif yn tueddu i gytuno bod eu hamgylchedd lleol yn ddymunol ac yn cael gofal da, mae cyfran gymharol uchel yn anghytuno. Roedd rhai o'r sylwadau'n amlygu problemau ynghylch glanhau strydoedd, gwastraff, sbwriel a chynnal a chadw ymylon ffyrdd/gwrychoedd yn ffactorau a allai gyfrannu at hyn.
Mae cyfartaledd y gwastraff trefol y person nad yw'n cael ei ailgylchu wedi lleihau ymhellach i 121 cilogram ar ddiwedd 2023/24, o gymharu â 144 cilogram yn 2022/23. Mae'r ffigurau cymharol diweddaraf a gyhoeddwyd ar gyfer 2022/23 yn dangos bod Sir Gaerfyrddin yn well na chyfartaledd Cymru a bod gan y sir y ffigur 4ydd gorau yng Nghymru. Ni fydd data cymharol 2023/24 yn cael ei gyhoeddi tan fis Ionawr 2025.
Mae arolygon deufisol ein System Reoli ar gyfer Archwilio'r Amgylchedd Lleol (LEAMS) a gynhaliwyd yn ystod 2023/24 i wirio glendid ein strydoedd, yn dangos gostyngiad mewn glendid - 71.5%, o gymharu â 72.7% y flwyddyn flaenorol, gyda chynnydd yn lefelau y sbwriel a geir ar y strydoedd.
Mae nifer cyfartalog y diwrnodau a gymerwyd i glirio achosion o dipio anghyfreithlon wedi gwella i 2.3 diwrnod yn ystod 2023/24 er gwaethaf cynnydd o 5% yn nifer yr achosion o 1,615 i 1,701.
Am gynnydd a data ar y gwasanaeth hwn, gweler tudalennau 40-42 -
Yn Gryno
Mae'r Cyngor yn blaenoriaethu cynnal a chadw'r rhwydwaith priffyrdd, yn enwedig yn ystod y gaeaf, er mwyn sicrhau mynediad di-dor i wasanaethau hanfodol. Fodd bynnag, dirywiodd cyflwr arwyneb y ffordd yn 2023/24, gyda chynnydd sylweddol mewn diffygion a gofnodwyd.
Rydym wedi parhau i weithio trwy heriau strategol mawr fel ymgyrch genedlaethol 20mya, datblygu cynllunio trafnidiaeth ranbarthol a'r llwybr tuag at ddyheadau carbon sero net.
Rydym wedi bod yn rhagweithiol wrth gyflawni newid ac wedi llwyddo i gael cyllid grant i gefnogi darparu gwasanaethau. Fodd bynnag, rydym yn wynebu heriau o ran cyllidebau cyfalaf a refeniw llai ynghyd â disgwyliadau cyhoeddus cynyddol, pwysau ar y gadwyn gyflenwi, a chyflwr dirywiol o ran yr asedau, sy'n arwain at amgylchedd gweithredu anodd ar gyfer gwasanaethau Priffyrdd a Chludiant.
Sut ydyn ni'n gwneud?
Ni chwblhawyd unrhyw arolygon o gyflwr ffyrdd yn 2023/24, fodd bynnag cwblhawyd yr arolygon ar ddechrau 2024/25 a byddant yn cael eu hadrodd yn Adroddiad Blynyddol 2024/25. Felly, mae'r canlyniadau canlynol yn seiliedig ar arolygon 2022/23, roedd canlyniadau pob un o'r categorïau ffyrdd wedi gwella o'r flwyddyn flaenorol:
- Roedd 3.1% o'n ffyrdd Dosbarth A mewn cyflwr gwael (3.6%)
- Roedd 2.4% o'n ffyrdd Dosbarth B mewn cyflwr gwael (2.8%)
- Roedd 10.1% o'n ffyrdd Dosbarth C mewn cyflwr gwael (11.7%)
Cafwyd bron 4,000 o ymatebwyr i'n harolwg preswylwyr 2023, ac er bod llawer yn cytuno eu bod yn gallu cyrchu'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, roedd nifer tebyg wedi dweud 'y naill na'r llall', ac roedd nifer sylweddol o ymatebwyr yn anghytuno â'r datganiad hwn. Mae hyn wedi arwain at newid o gytuno'n gyffredinol drwy roi Sgôr o 0.05 i anghytuno'n gyffredinol drwy roi Sgôr o -0.05 wrth gymharu canlyniadau eleni â rhai'r llynedd. Mae tueddiadau ar sail lleoliad yn cyd- fynd â'r rhai a welir ar gyfer y datganiad nesaf ar fynediad at drafnidiaeth gyhoeddus dda, gyda'r sgoriau isaf i'w gweld yn ardaloedd Tywi a Gwendraeth.
O ran y datganiad 'mae cysylltiadau cludiant da o'm cwmpas i', gostyngodd sgôr yr arolwg preswylwyr o -0.41 i -0.45. Mae dadansoddiad pellach yn dangos bod sgoriau ar eu hisaf ar gyfer ymatebwyr yn byw yn ardaloedd cymunedol Tywi (-0.94) a Gwendraeth (-0.66). Mae hyn i'w ddisgwyl o gofio bod yr ardaloedd hyn yn cynnwys rhai o wardiau mwyaf gwledig y sir.
Am gynnydd a data ar y gwasanaeth hwn, gweler tudalennau 44-47 -