Cwestiynau Cyffredinol - Bandeang a Darpariaeth Rhwydwaith Symudol

Diweddarwyd y dudalen ar: 23/08/2023

Dylai'r cwestiynau cyffredin canlynol ateb unrhyw gwestiynau posibl sydd gennych ynglŷn ag Bandeang a Darpariaeth Rhwydwaith Symudol.

Mae band eang Ffibr yn defnyddio cebl ffibr optig i gysylltu eich gartref i’r gyfnewidfa.
Mae tri math o fandeang:

  1. Bandeang Copr (bandeang dros y llinell ffôn) sydd wedi bod yn sylfaen i strwythur y rhyngrwyd ers degawdau. Defnyddia’r dechnoleg hyn cebl copr i mewn i’ch cartref. (cyflymder lawrlwytho cyfartalog 10-11 megabits yr eiliad (mbps))
  2. Ffibr i’r Cabinet (FTTC) sy’n defnyddio cebl ffibr optig o’r adeilad y gyfnewidfa i’r cabinet ac yna cebl copr i’ch cartref. (cyflymder o uchafswm o 80mbps - yn ddibynnol ar y pellter o’r cabinet)
  3. Ffibr i’r safle (FTTP), ffibr yn uniongyrchol o’r adeilad y gyfnewidfa i’r cartref. (1,000 mbps/ 1GB)

Gallwch redeg prawf cyflymder ar y  ddolen hon

  • Yn fwy dibynadwy, yn llai agored i ymyrraeth neu ddiferion.
  • Gall mwy o ddyfeisiau gael mynediad i'r band eang ar yr un pryd a chael cyflymder cyson
  • Cyflymderau uwchlwytho cyflymach i bobl sy'n gweithio gartref, uwchlwytho ffeiliau a gemau
  • Cysylltiad dibynadwy ar gyfer galwadau fideo a rhannu ffeiliau mawr
  • Ffrydio rhaglenni byw a gwasanaethau adloniant eraill
  • Galluogi profiadau i fyfyrwyr ac athrawon er mwyn iddynt gael mynediad at adnoddau dysgu a phorthfeydd ar-lein.
  • Ychwanegu gwerth i'ch eiddo.
  • Gwych i fusnesau gan fod ceblau ffibr yn gwrthsefyll amodau tywydd gwael, lleihau’r ymyrraeth electromagnetig a nid yw’r lled band yn cael ei effeithio gan bellter.
  • Mae prisiau band eang ffeibr llawn bron yr un pris â band eang cyflym iawn ond gyda chyflymder ac ansawdd gwarantedig.
  • Mae costau gosod yn amrywio o safle i fangre ond rhan amlaf am ddim.
  • Mae rhai Darparwyr Gwasanaethau Rhyngrwyd yn cynnig bargeinion gostyngol i gwsmeriaid incwm isel sy'n bodloni eu meini prawf cymhwysedd.

 

Mae band eang ffibr yn rhaglen beirianneg anodd gan ei bod yn disodli'r seilwaith band eang copr presennol. Efallai y byddan nhw'n defnyddio'r seilwaith presennol o fewn yr adeilad ond i gael ffibr i redeg yn uniongyrchol i gartrefi a busnesau, gallai olygu llawer iawn o beirianneg sifil mewn lleoliadau anodd neu anghysbell.

Mae ffeibr yn cael ei gyflwyno i filoedd ar draws y sir drwy gyflwyno masnachol neu gynlluniau a ariennir gan Llywodraeth fel Cynllun Talebau Gigabit a Project Gigabit. Mae sawl cyflenwyr yn cyflwyno ffibr mewn gwahanol ardaloedd yn Sir Gaerfyrddin.

Cyflenwyr gweithredol yn Sir Gâr yw

Broadway Broadband

Openreach

Ogi

Wefibre

Voneus

Virgin

Mae'r rhan fwyaf o gyflenwyr, os nad pob un, wedi symud i ddefnyddio ffibr i'r safle yn hytrach na ffibr i'r cabinet.

Efallai y byddwch chi'n gallu archebu gwasanaeth yn barod, teipiwch eich cos post i mewn i'r gwiriwr argaeledd band eang i wirio.

Cysylltwch â chyflenwyr i drafod eich opsiynau gyda nhw.

Yn yr amgylchiadau hwn, dylech gysylltu â'r cyflenwr am fwy o wybodaeth.

Efallai y byddwch chi'n gallu archebu gwasanaeth yn barod, teipiwch eich cod post i mewn i'r gwiriwr argaeledd bandeang i wirio.

Nid oes unrhyw arian cyhoeddus wedi'i ddefnyddio i dalu am ffibr wedi'i hanner adeiladu: mae Llywodraeth Cymru ond yn talu am asedau sydd wedi'u galluogi i ddarparu cysylltiad bandeang cyflym iawn i gartref neu fusnes. 

Mae yna atebion amgen arall sy'n gallu darparu band eang yn eich cartref.

Gall atebion amrywio o 4G, diwifr neu loeren.

Mae llwybrwyr 4G wedi profi'n effeithlon mewn lleoliadau anghysbell lle mae signal awyr agored cryf. Gall atodi antena tuag at fast 4G roi mwy o gyflymder.

Mae arian ar gael i'w helpu i ariannu cost gosod datrysiad arall drwy'r cynllun Allwedd Band Eang Cymru. Gall y cynllun gynnig hyd at £800 yn ddibynnol ar gyflymder y cysylltiad newydd.

Gall nifer o ffactorau achosi hyn:

  • Cyflymder cysylltu isel
  • Eraill yn defnyddio’r rhyngrwyd
  • Amrywiadau yn y rhwydwaith o ochr y darparwr gwasanaeth rhyngrwyd
  • Y Wi-fi gorfod mynd trwy waliau neu rwystrau eraill.
  • Gwallau ar y lein

Mae gan wefan Ofcom awgrymiadau defnyddiol i gadw mewn cysylltiad

Mae rhai Darparwyr Gwasanaethau Rhyngrwyd yn cynnig bargeinion gostyngol i rai cwsmeriaid incwm isel o'r enw Tariffau Cymdeithasol.

Gall eich cynrychiolydd lleol yn y Senedd helpu codi'r mater gyda'r pleidiau perthnasol fodd bynnag nid yw'r polisi Telathrebu wedi'i ddatganoli i Gymru.

Gall eich Aelod Seneddol godi'r mater hwn i Lywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y polisi telegyfathrebu.

 

Gall yr awdurdod lleol helpu drwy ddarparu gwybodaeth a chymorth i drigolion ynglŷn â'r opsiynau sydd ar gael. Mae'r awdurdod lleol yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, gweithredwyr telathrebu, ac Ofcom.

Gwybodaeth berthnasol:

 Cyngor Sir Gâr bandeang@sirgar.gov.uk

Llywodraeth Cymru

Llywodraeth y DU

Ofcom

Cyfeirir atynt yn aml fel 'Signal' neu 'Derbynfa', mae darpariaeth rhwydwaith symudol yn cyfeirio at gryfder signal / derbyniad yn yr ardal y mae eich ffôn symudol yn ei ddefnyddio i wneud galwadau ffôn, anfon negeseuon neu ddefnyddio'r rhyngrwyd.

Llwythwch mwy