Twyll

Beth yw Twyll?

Mae twyll yn weithred o anonestrwydd neu dwyll sydd wedi'i bwriadu at elwa neu achosi colled i barti arall.

Deddf Twyll 2006 yw'r brif ddeddfwriaeth yng Nghymru a Lloegr sy'n mynd i'r afael â throseddau sy'n gysylltiedig â thwyll.

Dyma'r troseddau allweddol o dan Ddeddf Twyll 2006:

  • Twyll trwy Ddweud Anwiredd (Adran 2): Dweud rhywbeth (ffaith neu gyfraith) nad yw'n wir neu sy'n gamarweiniol, gyda bwriad o elwa neu achosi colled
  • Twyll drwy Fethu â Datgelu Gwybodaeth (Adran 3): Methu â datgelu gwybodaeth pan fo'n ofynnol yn gyfreithiol i wneud hynny, gyda'r bwriad o elwa neu achosi colled 
  • Twyll trwy Gamddefnyddio Sefyllfa (Adran 4): Camddefnyddio sefyllfa o ymddiriedaeth (lle mae disgwyl i chi ddiogelu buddiannau ariannol rhywun arall) i elwa neu achosi colled

Mae twyll yn erbyn yr awdurdod lleol yn digwydd pan fydd arian a fwriedir ar gyfer gwasanaethau cymunedol yn cael ei ddargyfeirio at unigolion nad oes ganddynt hawl iddo. Mae'r math hwn o anonestrwydd yn niweidio hyder y cyhoedd a gall leihau ansawdd ac effeithlonrwydd gwasanaethau awdurdod lleol.

 

Enghreifftiau o Dwyll

  • Staff yn hawlio costau teithio drwy dwyll ar gyfer teithiau sydd heb eu gwneud, yn cynyddu milltiroedd y daith neu'n hawlio treuliau nad ydynt wedi'u hysgwyddo
  • Staff sy'n gweithio mewn mannau eraill tra'n honni eu bod ar absenoldeb salwch yn yr awdurdod lleol
  • Staff sy'n gweithio o bell tra ar yr un pryd yn cymryd rhan mewn tasgau eraill h.y. gweithio mewn ail swydd, astudio nad yw'n gysylltiedig â'u gwaith
  • Cwmnïau'n nodi costau uwch ar eu hanfonebau
  • Unigolion sy'n gwneud cais am swyddi gyda'r awdurdod lleol sy'n nodi cymhwyster ffug, hanes cyflogaeth ffug a geirdaon ffug
  • Unigolion sy'n hawlio gostyngiad person sengl ar gyfer eu treth gyngor tra'n byw gyda phartner neu oedolyn arall yn yr aelwyd ac nad ydynt wedi ei ddatgan i'r awdurdod lleol
  • Unigolion sy'n honni bod tenantiaid yn byw yn eu heiddo ac felly, y tenantiaid sy'n gyfrifol am dalu'r dreth gyngor

 

Beth i'w wneud os ydych chi'n amau twyll

P'un a ydych chi'n weithiwr awdurdod lleol neu'n aelod o'r cyhoedd, mae gan bob un ohonom ddyletswydd i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddiogelu. Os ydych chi'n amau twyll, dylech roi gwybod am y mater i Swyddog Ymchwilio i Dwyll Cyngor Sir Caerfyrddin, gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein.

Ffurflen atgyfeirio twyll ar-lein

 

Os oes angen unrhyw gyngor arnoch ynglŷn â thwyll posibl, cysylltwch â Swyddog Ymchwilio i Dwyll drwy e-bostio fraud@sirgar.gov.uk