Pwll Lludw a Merllyn y Pwll

Dydd Amserau Agor
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Dydd Sul

Gwybodaeth Ychwanegol

Arferai'r Pwll Lludw a Merllyn y Pwll fod yn byllau gwaelodi ar gyfer lludw tanwydd maluriedig o Orsaf Drydan Bae Caerfyrddin sydd wedi ei dymchwel bellach. Heb amheuaeth mae'r Pwll Lludw yn gynefin pwysig i adar y gwlyptir, ac mae'r cyrs o amgylch y pwll yn llecyn llochesu da pan fyddant yn magu ac yn gorffwys. Ymhlith yr adar sydd yn magu yma y mae elyrch dof, hwyaid gwyllt, hwyaid copog, gwyachod bach, gwyachod mawr copog, cwtieir ac ieir dŵr. Mae'r corslwyni yn fannau magu da i deloriaid y cyrs, teloriaid yr hesg a breision y cyrs, ac mae teloriaid Cetti prin yn y ffen helyg. Yn y gaeaf daw rhegennod y dŵr a'r hwyaid pengoch i'r cyffiniau. Yng nghyffiniau Merllyn y Pwll y mae coetir llaith a ffen sy'n gyforiog o blanhigion. Un o nodweddion diddorol y safle yw bod planhigion sydd yn ffynnu ar dir calchfaen yn ogystal â phlanhigion sydd yn arfer osgoi tir calchfaen, yn tyfu'n agos at ei gilydd yn yr un cynefin. Y rheswm dros hyn yw bod lludw tanwydd maluriedig yn hynod o alcalïaidd ar y cychwyn. Mae chwe rhywogaeth o frwyn yn tyfu yma gan gynnwys y frwynen flodbwl. Yn ogystal â chyrs, mae carpiog y gors, llys y milwr, a thegeirian y gors i'w gweld yn tyfu yn y cynefin hwn. Hesg, megis yr hesgen dywysennog, sydd yn gorchuddio'r ffen agored, ond ymhlith yr hesg y mae planhigion eraill megis canri leiaf a gwlithlys. Yn y coetir bedw a helyg tyf rhedyn cyfrdwy a marchredyn y mynydd, sydd yn blanhigion pridd asidaidd.

Cynllunio