Twyni Tywod Pen-bre

Dydd Amserau Agor
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Dydd Sul

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae Twyni Tywod Pen-bre yn system dwyni fawr sy'n ehangu (sy'n nodwedd brin), lle gallwch ddod o hyd i'r holl wahanol fathau o dwyni tywod gan gynnwys egin-dwyni, twyni mawr lled-sefydlog, a thwyni llwyd mwy sefydlog lle mae glaswelltir twyni. Mae'r twyni tywod hyn yn nodedig am eu hamrywiaeth o blanhigion, ac maent yn gartref i nifer o rywogaethau prin gan gynnwys trilliw y tywyn, y crwynllys Cymreig, y gludlys rhesog, pig yr aran rhuddgoch, melyn yr hwyr, a'r blucen felen.

Hefyd mae'r pryfed sy'n dibynnu ar yr amrywiaeth hwn o blanhigion yn unigryw, a gallwch ddod o hyd i'r glesyn bach, yr iâr fach gleisiog, a nifer fawr o rywogaethau o wenyn a phicwns sy'n byw ar eu pennau eu hunain megis y gardwenynen frown. Mae'r morfa, nad yw'n cael ei bori, yn gartref i lafant y morgreigiau, sy'n llenwi'r morfa â blodau porffor ym mis Awst. Hefyd mae sampier y geifr a seren y morfa'n blodeuo'n hwyrach yn yr haf sy'n golygu bod y lle'n drwch o felyn.

Cynllunio