Twyni Doc y Gogledd
| Dydd | Amserau Agor |
|---|---|
| Dydd Llun | |
| Dydd Mawrth | |
| Dydd Mercher | |
| Dydd Iau | |
| Dydd Gwener | |
| Dydd Sadwrn | |
| Dydd Sul |
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae safle Twyni Doc y Gogledd wedi ei ddiogelu gan ei fod yn gynefin twyni tywod prin sy'n gyforiog o blanhigion ac anifeiliaid arbenigol. Mae'r planhigion a'r anifeiliaid sy'n byw yn y twyni wedi ymaddasu'n arbennig er mwyn gwrthsefyll yr amodau caled. Yn yr haf mae'r twyni'n dwym ac yn sych ac yn y gaeaf mae'r gwynt yn chwythu ewyn hallt o'r môr drostynt.
Yn y gwanwyn gorchuddir y glaswelltir twyni â phlanhigion llachar megis y friwydden felen, y melynydd, y trilliw, a'r gorfanc lleiaf parasitig, tra bo celyn y môr a'r pengaled mawr i'w gweld ar dir garw. O ran rhywogaethau di-asgwrn-cefn arbenigol mae'r twyni'n cynnwys rhywogaethau sy'n cael eu cysylltu gan amlaf â hinsoddau mwy deheuol; mae 'malwod y twyni' er enghraifft yn hanu o Fôr y Canoldir a hwn yw'r man mwyaf gogleddol yn y byd y gellir dod o hyd iddynt. Yn yr haf mae llawer o'r malwod hyn i'w gweld yn glynu at goesau planhigion er mwyn osgoi'r tywod crasboeth.
