Cwestiynau Cyffredin

Oes gennych chi gwestiwn? Rydym wedi gwneud ein gorau i ateb enghreifftiau o'r cwestiynau mwyaf cyffredin isod. Os na allwch gael hyd i’r ateb rydych ei angen, mae croeso i chi gysylltu.

 

Yn anffodus, nid yw glaswellt wedi'i dorri’n fyr yn cynnig fawr ddim budd i natur. Mae pryfed peillio ar draws y DU mewn perygl oherwydd pwysau fel defnyddio plaladdwyr a cholli cynefin. 

Mae angen i ni ddarparu cartrefi a lleoedd iddynt i fwydo er mwyn sicrhau eu bod yn goroesi. 

Mae'r Cyngor yn rheoli cryn dipyn o laswelltir drwy dorri'r borfa yn rheolaidd ac mae cyfle sylweddol i wella bioamrywiaeth a darparu cartrefi i'r pryfed peillio hyn yn y sir drwy newid sut mae rhywfaint o'r ardal hon yn cael ei reoli. 

Mae newid y modd yr ydym yn rheoli ein hardaloedd o laswelltir amwynder yn gam allweddol y gallwn ni ei gymryd i helpu i fynd i'r afael â'r Argyfyngau Natur a Hinsawdd, a ddatganwyd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin.

Mae gan y Cyngor hefyd ddyletswydd i ddiogelu, cadw a gwella ein hamgylchedd naturiol o dan delerau’r Strategaeth Gorfforaethol (Amcanion Llesiant 3-9), Datganiad Gweledigaeth y Cyngor ar gyfer 2022–27, Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth, a Chynllun Gweithredu Peillwyr Cymru.  

Bydd gwella maint a chyflwr glaswelltir blodau gwyllt hefyd o fudd i lesiant cymunedau, gan fod ymchwil wedi profi bod bod yn agos at natur yn gwella iechyd meddwl a llesiant. 

Mae casglu'r borfa wedi'i thorri yn lleihau lefelau maethynnau ac yn atal haen trwchus o laswellt marw rhag ffurfio. Mae hyn yn caniatáu i hadau blodau gwyllt egino ac yn atal rhywogaethau cystadleuol cryf rhag dominyddu. Dros amser, mae cael gwared ar y toriadau’n gwneud ymylon yn haws i'w rheoli wrth i lefelau maethol is olygu bod rhywogaethau blodau sy'n tyfu'n arafach yn dechrau disodli tyfiant porfa ffrwythlon.

Ar gyfer y Toriad Amwynder bydd y borfa yn cael ei thorri'n rheolaidd a'i gadael ar y ddaear, ar gyfer y Toriad Neithdar a Dôl, bydd y toriadau naill ai’n cael eu gadael ar y safle mewn lleoliadau addas neu'n cael eu cludo i Safle Gwastraff Gwyrdd. 

Ydyn, cafodd newidiadau rheoli eu treialu mewn tua 30 o safleoedd ar draws y sir yn 2022/23.

Cafodd hyn ei hyrwyddo ac roedd cefnogaeth eang. Gwnaed newidiadau lle bo angen.

Na. Bydd diogelwch bob amser yn dod yn gyntaf, sy'n golygu y bydd rhai ardaloedd yn dal i gael eu torri'n rheolaidd fel safleoedd gwelededd.

Nid yw ymylon priffyrdd wedi'u cynnwys yn y newidiadau hyn. Maent yn cael eu rheoli gan Is-adran Priffyrdd y Cyngor.

Yn y tymor byr, er y bydd llai o dorri mewn rhai ardaloedd penodol ar adegau penodol o'r flwyddyn, mae cost yn dal i fod ynghlwm wrth gasglu'r borfa, cynnal peiriannau ac, mewn rhai achosion, cael gwared ar borfa o'r safle. O waith peilot a wnaed, rydym yn rhagweld y bydd yn annhebygol y bydd y Cyngor yn gwneud unrhyw arbedion o'r cynllun. Yn y pen draw, dros amser, mae'r dull hwn yn debygol o fod yn gost-niwtral neu gall arwain at arbed costau i'r Cyngor.

Rydym yn cydnabod y gallai gymryd amser i rai pobl ddod i arfer â'r newid hwn i'n dull rheoli traddodiadol o dorri'r borfa. 

O ran y toriad Neithdar ni fydd y tyfiant yn llawer mwy ar gyfer y toriad 6 wythnos.

Efallai y bydd rhai o'r safleoedd yn cymryd ychydig flynyddoedd i'r mân laswelltau a'r blodau gwyllt ddod yn  fwy amlwg na'r glaswelltau cryfion. Bydd yn edrych yn well o flwyddyn i flwyddyn, ac rydym yn gobeithio y byddwn i gyd yn gallu gwerthfawrogi amrywiaeth lliw a gwerth bywyd gwyllt yn y borfa dal yn y dyfodol. 

Byddwn yn torri'r borfa ar y llwybr a bydd ymylon ffordd yn cael eu torri i sicrhau bod popeth i'w weld yn daclus. 

Nid yw'n gynllun i hau hadau blodau gwyllt unflwydd cymysg. Efallai y bydd blodau unflwydd cymysg yn edrych yn lliwgar, ond mae ganddynt anfanteision. Weithiau cânt eu galw yn 'flodau gwyllt' ond yn aml maent yn rhywogaethau anfrodorol. Gallant fod yn ddrud i'w prynu, mae angen gwaith i edrych ar eu hôl ac efallai y bydd angen eu hau bob blwyddyn. Defnyddir chwynladdwyr yn aml i glirio ardaloedd cyn hau. Nid yw hau'r cymysgeddau hyn yn gwneud fawr ddim i warchod ein blodau gwyllt brodorol. Nid ydynt yn cefnogi'r ystod eang o infertebratau sy'n bwydo ar flodau gweirgloddiau brodorol.  Ein nod yw annog y banc hadau brodorol i ffynnu trwy newid mewn rheolaeth. Dyma'r dull mwyaf cynaliadwy o gynyddu arwynebedd a maint glaswelltiroedd i gefnogi planhigion blodeuol yn Sir Gaerfyrddin. 

Mae'r Cyngor yn ffafrio newid rheolaeth dros hadu neu blannu lle bo hynny'n bosibl, er mwyn annog y banc hadau brodorol i ffynnu heb gyflwyno rhywogaethau anfrodorol na'r rhai na fyddent yn tyfu’n naturiol yn yr ardal. 

Os nad yw'r ardal yn dangos unrhyw arwyddion o gynyddu amrywiaeth blodau gwyllt ar ôl 5 mlynedd o reolaeth drwy dorri a chasglu, efallai y byddwn yn ystyried cynorthwyo tyfiant blodau gwyllt trwy ddod o hyd i blanhigion plwg, gwair gwyrdd neu hadau o darddiad lleol. 

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd ardaloedd Toriad Dôl yn cael eu marcio ag  arwydd Rheoli ar gyfer Bywyd Gwyllt Cyngor Sir Caerfyrddin ond os nad oes arwydd yno, cysylltwch â ni i weld a yw ardal wedi'i chynnwys yn y cynllun. 

Mae'r Cyngor wrthi'n mapio ein holl safleoedd a bydd hyn yn cynnwys ardaloedd a reolir ar gyfer pryfed peillio.  

Na fydd, achosir clefyd y gwair yn bennaf gan borfa a bydd rheoli'r cyfan gyda pheiriannau torri a chasglu yn lleihau'r maetholion ac yn arwain at ostyngiad mewn porfeydd a chynnydd mewn blodau gwyllt.

Mae blodau gwyllt yn cael eu peillio gan bryfed yn hytrach na gwynt, felly nid ydynt yn rhyddhau eu paill yn yr un modd â glaswellt a choed. 

Ni fydd mwy o ardaloedd â phorfa dal yn denu mwy o lygod mawr, plâu neu ferminau eraill. Mae llygod mawr yn rhan o'r amgylchedd naturiol ac yn bresennol yn y rhan fwyaf o leoliadau. Nid yw porfa dal yn ffynhonnell fwyd ar gyfer llygod mawr. Mae'r rhan fwyaf o lygod mawr yn cael eu bwyd o fwyd wedi'i daflu a deunydd lapio bwyd. 

Mae trogod yn byw mewn ardaloedd o lystyfiant trwchus fel glaswelltir a lleoliadau coetir. Mae trogod hefyd yn rhan o'r amgylchedd naturiol, ond er mwyn iddynt fod yn bresennol, rhaid i anifeiliaid (fel ceirw neu ddefaid) fod yn bresennol yn rheolaidd. Yn y rhan fwyaf o'n hardaloedd glaswelltir amwynder o fewn aneddiadau mae poblogaethau anifeiliaid lletyol a throgod yn gyffredinol yn isel. 

Rydym yn annog y rhai sy'n mwynhau'r amgylcheddau hyn i gymryd gofal ynghyd â pherchnogion anifeiliaid anwes. 

Cyfrifoldeb pob perchennog yw casglu gwastraff ei gi, waeth beth yw uchder y borfa neu’r amgylchedd.

Mae manteision bioamrywiaeth glaswellt ychydig yn hirach mewn rhai ardaloedd yn drech nag unrhyw gynnydd posibl mewn baw cŵn.

Nid yw porfa dalach ychwaith yn golygu nad oes cyfrifoldeb o hyd ar breswylwyr i beidio â gollwng sbwriel. Byddwn yn casglu sbwriel cyn i ni dorri'r borfa.

Wrth gwrs! Cysylltwch â ni ar y cyfeiriad e-bost isod. Cofiwch fod cyfyngiadau a allai atal yr ardal rhag cael ei chynnwys yn y cynllun, gan gynnwys rhesymau diogelwch neu amwynder. Yn ogystal, dim ond tir sy'n eiddo i awdurdodau lleol y gallwn ei gynnwys.

Wrth gwrs, os hoffech drafod hyn ar gyfer ardal benodol, cysylltwch â ni. Rhaid i'r rhesymau dros beidio â chynnwys safle mwyach fod yn seiliedig ar ddiogelwch, cyfyngiadau safle (maint, llethr, draenio).

Llwythwch mwy