Newid yn yr Hinsawdd

Mae newid yn yr hinsawdd yn cyfeirio at y newidiadau tymor hir mewn tymheredd a phatrymau tywydd. Mae newidiadau bach yn digwydd yn naturiol ond mae gweithgarwch dynol yn cyflymu cynhesu byd-eang sy'n achosi newid yn yr hinsawdd. Mae hyn yn cael ei achosi'n bennaf drwy losgi tanwydd ffosil fel glo, olew a nwy naturiol, sy'n rhyddhau carbon deuocsid a nwyon niweidiol eraill i'r atmosffer. Mae'r nwyon hyn yn dal gwres yr haul ac yn cynhesu'r Ddaear.

Rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd ac yn cydnabod bod gennym ran bwysig i’w chwarae er mwyn lleihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr ein hunain a rhoi arweiniad er mwyn annog trigolion, busnesau a sefydliadau eraill i leihau eu hôl troed carbon hwythau. Rydym yn mabwysiadu ymagwedd bragmatig tuag at ddod yn awdurdod lleol carbon sero net erbyn 2030, gan ganolbwyntio i ddechrau ar ein hôl troed carbon mesuradwy. Nid yw hyn yn atal camau ehangach eraill i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, sy'n cael eu gwneud ar draws adrannau'r Cyngor.

Mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar bobl ledled y byd mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys cyfnodau o wres mawr eithafol a stormydd amlach, aflonyddwch i systemau bwyd, a chynnydd mewn afiechydon. Mae hefyd yn bygwth cymunedau yn Sir Gaerfyrddin, gan achosi problemau fel llifogydd [...]. Mae ein hamddiffynfeydd rhag llifogydd, amgylcheddau naturiol a hanesyddol, cartrefi a'r busnesau sy'n gyrru ein heconomi i gyd mewn perygl, a bydd hynny ond yn gwaethygu.