Ynni Cymru
Diweddarwyd y dudalen ar: 26/03/2025
Mae Ynni Cymru yn gwmni ynni sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru sydd wedi'i sefydlu at y dibenion canlynol:
- cefnogi'r gwaith o ddatblygu cynhyrchu ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r gymuned
- hyrwyddo perchnogaeth gymunedol o asedau ynni adnewyddadwy
- cefnogi Cymru i gyrraedd ei thargedau sero net.
Mae rhaglen ariannu grant cyfalaf Ynni Cymru yn cefnogi sefydliadau ynni cymunedol, mentrau cymdeithasol, a mentrau bach a chanolig (SEMs). Mae gan y rhaglen grant gyfanswm o £10 miliwn ar gyfer 2024 i 2025.
I gael cyllid, mae angen i brosiectau:
- Integreiddio dulliau cynhyrchu, seilwaith a storio ynni lleol
- gwella effeithlonrwydd a darparu manteision lleol, er enghraifft, costau ynni is
- helpu i ddatgarboneiddio a chynyddu'r defnydd o dechnolegau carbon isel.
Disgwylir i Ynni Cymru helpu Cymru i gyrraedd ei thargedau sero net ynghyd â dod ag ystod eang o fanteision economaidd a chymdeithasol a gwella gwytnwch ynni lleol.