Teithio ar y trên
Diweddarwyd y dudalen ar: 07/01/2020
National Rail
Mae gwefan National Rail yn cael ei ddarparu’n annibynnol ar ran yr holl gwmnïau trenau ac arni gallwch gynllunio’ch teithiau; darllen y 'Byrddau Ymadael Byw', sef byrddau ymadael pob un o orsafoedd National Rail yn y wlad; gwybodaeth am newidiadau i wasanaethau; Cyfeiriadur o Gwmnïau Trenau; cynigion arbennig a gwybodaeth ddefnyddiol arall am drenau.
Trafnidiaeth Cymru
Mae gwefan Trafnidiaeth Cymru “…yn llawn gwybodaeth am docynnau ac amserlenni – ynghyd â llu o awgrymiadau i wneud eich taith yn fwy pleserus". Ar y safle mae gwybodaeth am deithiau gyda Thrafnidiaeth Cymru yn ogystal â gwybodaeth am amserlenni a chyfle i brynu tocynnau ar y we.
First Great Western
First Great Western sy’n darparu’r gwasanaeth Intercity rhwng Abertawe a Chaerfyrddin ac Abergwaun.
Rheilffordd Calon Cymru
Defnyddiwch y wefan hon i ganfod hud Calon Cymru. Yma cewch wybodaeth am Reilffordd Calon Cymru a sut i deithio ar y trên bach a chael cyfle i ymlacio wrth iddo fynd â chi drwy ffresni cefn gwlad a’i afonydd croyw. Ar y wefan mae gwybodaeth am y rheilffordd, newyddion, cyfle i chi chwilio am lety, ‘taith dywys’ ar hyd y lein a llawer mwy.
Cymdeithas Teithwyr Rheilffordd Calon Cymru
Ffurfiwyd y grŵp hwn yn 1981 i gefnogi Rheilffordd Calon Cymru er mwyn ceisio hybu mwy o ddefnydd o’r rheilffordd a bod yn un llais ar gyfer pob un sydd am weld y rheilffordd werthfawr hon yn cael ei chadw. Mae pobl o bob rhan o Brydain a thu hwnt yn aelodau o’r gymdeithas. Maen nhw’n rhoi cyhoeddusrwydd iddi drwy daflenni a hysbysebu a thrwy werthu nwyddau hyrwyddo ac maent yn annog ac yn trefnu gweithgareddau sy’n debygol o ddenu pobl i ddefnyddio’r lein. Ar y wefan cewch wybodaeth am y gymdeithas a sut i ymaelodi â hi, a manylion am y rheilffordd, teithiau cerdded, a llefydd i ymweld â nhw.
Pas Archwilio Cymru
Un tocyn, milltiroedd diderfyn. Mae Pas Archwilio Cymru yn fargen deithio na allwch fod hebddi, sy’n cynnig mynediad diderfyn (ar ôl 9am ar ddyddiau’r wythnos) i holl wasanaethau trên prif linell Cymru ac i bron bob gwasanaeth bws. Ac nid dyna’r cyfan - cewch hefyd nifer o fuddion rhyfeddol eraill, gan gynnwys mynediad 'dau am un’ neu fynediad gostyngol i lawer o brif atyniadau ymwelwyr Cymru. Mae’r cardiau sydd ar gael yn cynnwys cerdyn Cymru gyfan a chardiau rhanbarthol yn amrywio o bedwar i wyth niwrnod. Gellir prynu tocynnau yn y rhan fwyaf o orsafoedd rheilffordd wedi’u staffio a chan Asiantiaid Teithio ‘National Rail’ ledled gwledydd Prydain neu trwy ffonio 0870 9000 773. Nid yw tocynnau ar gael ar-lein.
Cymru Connect
Mae hon yn ffordd arall o gyfuno teithio ar drenau a bysiau trwy un trafodiad yn unig. Mae Cymru Connect yn gynllun sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru sy’n golygu y cewch deithio i unrhyw le yng Nghymru trwy un tocyn trên yn unig, gan ddefnyddio cyfuniad o wasanaethau trên a bws. Defnyddiwch Cymru Connect os ydych angen mynd i rywle nad yw ar y rhwydwaith rheilffordd, neu os hoffech wneud taith fyrrach trwy gyfuno teithio ar drên a bws yn hytrach na gwneud taith reilffordd hir ar draws gwlad. Mae’n gost effeithiol hefyd. Gellir prynu tocynnau mewn unrhyw orsaf reilffordd yng ngwledydd Prydain. Er mwyn cael mwy o wybodaeth ewch i:
Network Rail
Cwmni peirianneg yw Network Rail a ffurfiwyd i adfywio rheilffyrdd Prydain. Nhw sy’n cynnal, gwella ac yn uwchraddio pob agwedd ar y seilwaith reilffyrdd gan gynnwys y trac, y systemau signalau, twnelau, y croesfannau, y gorsafoedd etc. Nid ydynt yn darparu gwasanaethau trên; eu prif gwsmeriaid sef y cwmnïau trên a chludo nwyddau sy’n gwneud hynny. Ar eu gwefan mae gwybodaeth am y cwmni, y gwaith peirianneg a phrosiectau, rheoli’r seilwaith, cyfrifoldeb corfforaethol ac ati.
Teithio, Ffyrdd a Pharcio
Ymgeisio am...
- Cau ffordd o ganlyniad waith brys
- Cau ffordd ar gyfer gwaith sydd wedi'i gynllunio
- Hysbysu am gwaith yn y ffyrdd
- Arwyddion traffig cludadwy
- Ganiatâd i wneud gwaith insiwleiddio allanol dros briffordd
- Arwyddion rhybuddio marchogaeth
- Arwyddion twristiaeth brown
- Ymgeisio am addurniadau tymhorol ar/uwchben y briffordd
- Mynediad i gerbydau i dramwyfeydd (cyrbau isel)
- Marciau i warchod mynediad preifat (Bar H)
- Mynediad i lleoedd parcio i'r anabl
- Hawlen Bargodi Dros Dro
- Cynllun parcio i breswylwyr
- Tystysgrif hepgor gollyngiad
Mynediad ar gyfer cerdded a beicio (Teithio Llesol)
Gwasanaethau bws
Rhannu ceir
Tocyn teithio consesiwn
Ceir Cefn Gwlad
Gwefru Cerbyd Trydan
Graeanu
Beicio modur
- Dillad a Helmed Beicio Modur
- Hyfforddiant Beic Modur
- Biker Down! Cymru
- Dragon Rider Cymru
- Carden CRASH Beiciau Modur
Parcio
Pont pwyso cyhoeddus
Rhoi gwybod am anifail sydd wedi marw ar y ffordd
Rhoi gwybod am broblemau ar y ffyrdd
- Rhoi gwybod am dwll yn y ffordd
- Rhoi gwybod am lifogydd / ddraen wedi blocio ar Briffordd
- Rhoi gwybod am olau stryd ddiffygiol
- Rhoi gwybod am lystyfiant wedi gordyfu / chwyn niweidiol
- Rhoi gwybod am goed peryglus / wedi cwympo
- Rhoi gwybod am berygl baglu
- Rhoi gwybod am falurion / rwystr / tirlithriad
- Rhoi gwybod am beryglon Y Gaeaf
- Rhoi gwybod am farciau / arwyddion ffordd diffygiol
- Rhoi gwybod am strwythur ar briffordd
- Rhoi gwybod am oleuadau traffig dros dro diffygiol
- Rhoi gwybod am ffensys / rhwystrau wedi difrodi
- Rhoi gwybod am broblem gyda chysgodfan fysiau
- Rhoi gwybod am gerbyd wedi'i adael
- Rhoi gwybod am glawr twll archwilio / draen wedi difrodi
- Rhoi gwybod am ddodrefn stryd wedi difrodi / ar goll
- Rhoi gwybod am oleuadau traffig parhaol diffygiol
Rhoi gwybod am gerbyd wedi'i adael
Diogelwch ffyrdd
Mwy ynghylch Teithio, Ffyrdd a Pharcio