Hawlen Bargodi Dros Dro

Diweddarwyd y dudalen ar: 31/03/2024

Dylech gyflwyno cais am hawlen i ni os ydych am ddefnyddio craen, lifft siswrn, peiriant codi neu rywbeth tebyg, ar neu dros briffordd gyhoeddus.

Nodiadau Cyfarwyddyd

  1. Ni roddir hawlenni os bydd gosod yr offer ar y briffordd yn torri cyfyngiad parcio neu'n mynd yn groes i unrhyw un o ddarpariaethau Deddf Priffyrdd 1980.
  2. Cost hawlen yw £132 y mis calendr neu ran ohono (yn ddilys tan 31 Mawrth 2025).
  3. Bydd y Cwmni a enwir yn indemnio'r Cyngor rhag pob gweithred, achos, hawliad ac atebolrwydd ym mha ffordd bynnag y bydd hynny'n codi, a bydd angen yswiriant atebolrwydd cyhoeddus o £10 miliwn o leiaf. Bydd yr awdurdod yn mynnu bod copi o'r dystysgrif bresennol yn cael ei gadw ar ffeil. Ni fydd hawlen yn cael ei rhoi heb brawf o yswiriant.
  4. Rhoddir awdurdod i osod arwyddion traffig o'r fath ar y briffordd fel sy'n ofynnol o dan y Côd Ymarfer Diogelwch Gwaith Stryd a Gwaith Ffordd.
  5. Tynnir sylw at Safon Brydeinig 7121: Rheoliadau Gweithrediadau Codi ac Offer Codi 1998 y mae'n rhaid eu hystyried bob amser wrth weithredu'r offer.

lawrlwythwch ffurflen gais

Teithio, Ffyrdd a Pharcio