Terfynau Cyflymder 20mya

Gofynnwyd i bob cyngor yng Nghymru gasglu adborth gan drigolion ar derfynau 20mya fel y gallai asesu hyn yn erbyn canllawiau diwygiedig Llywodraeth Cymru ar osod terfynau cyflymder o 30mya ar ffyrdd cyfyngedig a ffyrdd terfyn cyflymder 20mya eraill. Cyhoeddwyd y canllawiau diwygiedig hyn ym mis Gorffennaf.

Daeth tua 1600 o sylwadau unigol i law. O blith y rhain, roedd 264 o blaid terfynau cyflymder o 20mya, neu'n dymuno gweld gostyngiadau pellach i 20mya. Roedd 380 o ymatebwyr eisiau gweld pob ffordd yn dychwelyd i 30mya, neu eisiau terfyn cyflymder o 20mya dim ond y tu allan i ysgolion ac ysbytai ac ati. Roedd gweddill yr ymatebwyr eisiau adolygiad o ffyrdd unigol yn y sir. 

Mae’n bwysig nodi nad diwedd y broses yw hwn, a bod nifer o gamau y mae angen eu dilyn dros y misoedd nesaf. Bydd cyfleoedd i chi ddweud eich dweud eto.

Mae’n bwysig nodi hefyd na allwn weithredu ar unrhyw sylwadau sy’n ymwneud â’r polisi yn gyffredinol (p'un ai yw o’i blaid neu yn ei erbyn) – gan mai materion i Lywodraeth Cymru yw’r rhain.

Y camau nesaf

Byddwn yn adolygu'r holl sylwadau sydd wedi dod i law, a'u hasesu yn erbyn y canllawiau diwygiedig.

Wrth benderfynu a ddylai stryd/ffordd gael terfyn cyflymder uwch, rhaid i gynghorau fod yn sicr na fydd unrhyw gynnydd o’r fath yn cael effaith negyddol ar ddiogelwch ffyrdd.

Ar ôl i ni gwblhau ein hadolygiad, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniadau ar ein gwefan. Rydym yn rhagweld mai yn y flwyddyn newydd y bydd hyn yn digwydd. Sylwer na fyddwn yn gallu rhoi adborth unigol i bob sylw sydd wedi dod i law.

Os yw’r canllawiau diwygiedig yn awgrymu bod stryd/ffordd yr ydym wedi cael adborth arni yn addas ar gyfer terfyn cyflymder o 30mya, byddwn yn esbonio hyn pan fyddwn yn cyhoeddi canlyniadau’r adolygiad.

Bydd strydoedd/ffyrdd lle na fyddai 30mya yn addas o dan y canllawiau diwygiedig yn aros ar y terfyn cyflymder diofyn o 20mya.

Yn achos unrhyw stryd/ffordd lle mae’r canllawiau diwygiedig yn awgrymu y gallai terfyn cyflymder o 30mya fod yn addas, byddwn yn llunio Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (TRO), sy’n broses gyfreithiol y mae’n rhaid i ni ei dilyn os ydym am newid y terfyn cyflymder.

Bydd pob Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, lle gall trigolion ddangos cefnogaeth neu wrthwynebu. Byddwn yn cyhoeddi manylion am unrhyw newidiadau ar ein gwefan.

Yn dilyn yr ymgyngoriadau ynghylch y Gorchmynion Rheoleiddio Traffig, bydd penderfyniadau terfynol yn cael eu gwneud ar unrhyw newidiadau fel rhan o brosesau gwneud penderfyniadau arferol y cyngor.

Bydd rhagor o ddiweddariadau ar gael ar ôl i ni gwblhau ein hadolygiad.

 

Rhoi Gwybod am Bryderon ynghylch Goryrru 

Yr Heddlu a Gan Bwyll sy'n gyfrifol am y rôl o orfodi'r terfyn cyflymder presennol yn hytrach na'r Cyngor Sir, gan nad oes gennym unrhyw bwerau gorfodi yn hyn o beth. Gallwch roi gwybod i Gan Bwyll yn uniongyrchol am eich pryder ynghylch goryrru yn y gymuned, ac fe wnawn nhw ymchwilio i'r mater.

Adrodd pryder cymunedol

Gallwch ddysgu mwy am sut mae'r Heddlu a Gan Bwyll yn gorfodi'r terfyn 20mya yma:

GanBwyll - 20mya