Bws Bach y Wlad

Ymgeiswyr y Prosiect: Cyngor Sir Caerfyrddin 

Y Rhaglen Angor:Cymunedau Cynaliadwy 2

Lleoliad: Gogledd Sir Gaerfyrddin

Mae'r gwasanaeth yn darparu trafnidiaeth mewn ardal lle mae prinder trafnidiaeth gyhoeddus yng ngogledd Sir Gaerfyrddin.

Bydd y prosiect hwn yn cefnogi parhad y gwasanaeth bws o bentref i bentref i drigolion gwledig yng ngogledd y sir. Mae'r gwasanaeth bws lleol hygyrch hwn yn achubiaeth i'r rhai mewn cymunedau ynysig.