Canolfan Gymunedol Cil-y-cwm

Ymgeiswyr y Prosiect: Menter Cilycwm

Y Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy 2

Lleoliad: Cil-y-cwm

Mae trigolion pentref hyfryd Cil-y-cwm, sy'n gorwedd ym mhen uchaf dyffryn Tywi, yn addasu ac ymestyn Capel y Groes i fod yn Ganolfan Gymunedol gwbl hygyrch, ynni-effeithlon. 

Bydd cyllid yn creu estyniad newydd at y cyfleuster cymunedol; bydd hyn yn cynnwys toiledau, cegin a mynedfa wastad i sicrhau bod yr adeilad cyfan yn hygyrch.  Nid oes gan yr ardal hon yn Nhywi Uchaf unrhyw gyfleuster cymunedol arall ar gyfer cyfarfodydd a gweithgareddau gan fod ysgol y pentref wedi cau yn 2004.