Hwb Hebron
Ymgeiswyr y Prosiect: Capel Seion
Y Rhaglen Angor:Cymunedau Cynaliadwy 2
Lleoliad: Drefach
Mae cyfleuster cymunedol Hwb Hebron yn nyffryn Gwendraeth wedi cael ei adnewyddu'n ddiweddar sy'n golygu ei fod yn gallu gwasanaethu mwy o bobl yn ardal Drefach.
Bydd cyllid yn cael ei ddefnyddio i gefnogi aelod o staff i drefnu digwyddiadau a gweithgareddau. Bydd y cyllid hefyd yn prynu offer clyweledol i'w ddefnyddio yn yr hwb a rhai adnoddau cegin hanfodol.