Enw(au): Susan Holmes
Swyddogaeth(au): Cyfarwyddwr
Lleoliad: Caerfyrddin
Gwefan: Caerfyrddin Gyda'n Gilydd
Enw(au): Susan Holmes
Swyddogaeth(au): Cyfarwyddwr
Lleoliad: Caerfyrddin
Gwefan: Caerfyrddin Gyda'n Gilydd
Canolfan amgylchedd cymunedol yw Sero, sydd â’r nod, nid yn unig o addysgu a hysbysu’r gymuned am y materion sy’n ein hwynebu o ran yr hinsawdd a’r amgylchedd, ond hefyd i ddarparu offer a gwasanaethau ymarferol i helpu pobl wneud newidiadau yn eu bywydau bob dydd.
Sylweddolodd Caerfyrddin Gyda’n Gilydd, grŵp o amgylcheddwyr sy’n dymuno adeiladu gwytnwch yn y gymuned a dod â phobl ynghyd, fod angen i bobl ddysgu sgiliau newydd a chael cefnogaeth ymarferol ac emosiynol yn y cyfnod heriol hwn. Roedd angen iddo fod yn hygyrch ac roedd yn rhaid iddo ddangos y math o economi gylchol a fydd yn ofynnol wrth inni leihau ein hymddygiad o brynu’n barhaus a chydnabod gwerth mewn nwyddau a gwasanaethau lleol.
Y Gronfa Ffyniant Gyffredin yw’r hyn a’n galluogodd i ddechrau’r holl beth. Roedd modd i ni brynu offer ar gyfer y ganolfan ac eitemau ar gyfer y Llyfrgell o Bethau, dechrau prosiectau ac, yn bwysicaf oll, cyflogi pobl i redeg y gwasanaethau hyn. Ni allai Sero weithredu fel ag y mae heb staff cyflogedig, felly roedd y cyllid yn gwbl hanfodol.
Rydym yn chwilio’n barhaus am ffyrdd o wneud ein gwasanaeth yn fwy hunangynhaliol yn y tymor hwy, ond gan fod cymaint o’r hyn a wnawn yn newydd i bobl fel cysyniad, roedd angen amser arnom i sefydlu ein hunain – rhywbeth y mae’r cyllid hwn wedi’i alluogi.
Mae Sero yn unigryw yng Nghaerfyrddin, ac y mae’n herio’r arferion o brynu’n barhaus y mae’r rhan fwyaf o bobl wedi arfer â nhw. Fodd bynnag, rydym wedi canfod bod gwir angen ein gwasanaeth ac rydym yn parhau i gynyddu nifer ein cwsmeriaid bob mis. Ni fyddai’r un o’r saith aelod o staff yn Sero wedi cael swyddi heb y cyllid gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, ac ni fyddai ein gallu i ddarparu llawer o’n gwasanaethau am ddim wedi bod yn bosibl.
Dim ond un ddaear sydd gennym, felly rydym wrth ein bodd, diolch i’r cyllid hwn, fod nifer cynyddol o bobl yn ein cymuned â’r sgiliau a’r hyder i fyw bywyd mwy cytbwys, lle canfyddir hapusrwydd mewn ffyrdd nad ydynt yn mynd y tu hwnt i ffiniau planedol.