Canolfan Ieuenctid a Chymunedol Llanymddyfri

Enw(au): Jill Tatman ac Alicia Elberts

Swyddogaeth(au): Rheolwr y Ganolfan a Chynorthwy-ydd Datblygu Prosiect

Lleoliad: Llanymddyfri

Facebook: Canolfan Ieuenctid a Chymunedol Llanymddyfri

 

A allwch chi ddweud ychydig wrthym am eich sefydliad, yr hyn a’ch ysbrydolodd chi i’w ddechrau, a’i rôl o fewn y gymuned leol?

Sefydlwyd Grŵp Ieuenctid a Chymunedol Llanymddyfri yn 1990 i ddiwallu anghenion pobl ifanc y dref. Yn y diwedd prynwyd adeilad yn Sgwâr y Farchnad ac y mae wedi datblygu i fod yn lle y mae’r gymuned leol yn mynd iddo yn fwy nag unman arall. Cynhelir nifer o weithdai a gweithgareddau i oedolion. Cynhelir clwb ar ôl ysgol ar bob noson ysgol; mae clwb ieuenctid yn cyfarfod ddwywaith yr wythnos gyda’r nos; mae gennym fanc bwyd a bws mini cymunedol; llogir ystafelloedd i wahanol sefydliadau ac rydym ar agor o 9am tan 5.30pm ar ddyddiau’r wythnos fel cyfleuster galw heibio / cael cyngor, gyda chymorth cyswllt uniongyrchol i Cyngor ar Bopeth. Y ganolfan hefyd yw cartref Hybu, sef prosiect sy’n cefnogi ac yn cyfoethogi holl weithgareddau a digwyddiadau’r dref.

Sut mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi cynorthwyo’ch sefydliad chi, a pha welliannau neu newidiadau penodol yr ydych chi wedi gallu eu gwneud gyda’r cyllid?

Mae’r cyllid a gawsom wedi ein galluogi i wella ein holl gyfleusterau a oedd, oherwydd y nifer uchel o bobl yn eu defnyddio, wir angen eu gwella! Mae wedi ein galluogi i gynnal mwy o weithgareddau, i gynnig amgylchedd mwy dymunol lle gall pobl gyfarfod, a chyfleoedd newydd i aelodau’r gymuned ymwneud â’r ganolfan. Mae dodrefn ac offer newydd wedi ychwanegu dimensiwn newydd at yr hyn y gallwn ei gynnig.

Pa effaith y mae’r prosiect hwn wedi’i chael ar y gymuned leol hyd yma, a sut y mae hi wedi ymateb i’r gwasanaethau/gwelliannau yr ydych chi wedi’u cyflawni?

Mae’r adeilad bellach yn bendant yn fwy deniadol ac wedi annog mwy o aelodau o’r gymuned i fentro i’r ganolfan a chymryd rhan mewn prosiectau / gweithdai newydd a chyffrous y gallwn eu cynnig yn y gofodau ychwanegol. Mae’r gymuned leol bob amser wedi gwerthfawrogi’r ganolfan yn fawr ac wrth eu bodd gyda’r gwelliannau.
Hwb