Enw(au): Jay Smith
Lleoliad: Rhydaman
Gwefan: Mess Up The Mess

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd oren am wres eithafol o ddydd Mercher 24 Mehefin, tan ganol nos dydd Iau 25 Mehefin, yn dilyn y rhagolygon o dymheredd uchel yn ystod y dydd a'r nos.
Cymerwch ofal ychwanegol a chadwch lygad am symptomau blinder gwres (diffyg hylif, teimlo’n gyfoglyd, blinder) a llosg haul. Gofalwch fod ffrindiau a chymdogion agored i niwed yn iawn.
Os ydych yn ystyried mentro i’r dŵr i oeri, cofiwch hefyd am beryglon nofio yn y môr, mewn llynnoedd ac mewn afonydd. Gofalwch amdanoch eich hun ac eraill o'ch cwmpas.
Cynghorir pobl i wneud newidiadau i'w harferion er mwyn ymdopi â'r gwres eithafol, ac o ganlyniad bydd ein criwiau biniau allan yn gynharach yr wythnos nesaf gan ddechrau casglu gwastraff o 5am yn lle 6am. Mae hyn yn cynnwys casgliadau gwastraff gardd a gwastraff hylendid/cewynnau. Rhowch eich gwastraff allan y noson cynt, neu cyn 5am ar eich diwrnod casglu.
Mwynhewch yr haul yn ddiogel!
Enw(au): Jay Smith
Lleoliad: Rhydaman
Gwefan: Mess Up The Mess

Mae cwmni theatr Mess Up The Mess yn fenter gymdeithasol ddielw sydd wedi bod yn cynnal gweithdai drama cynhwysol am ddim yn Rhydaman a Dyffryn Aman ers 2007. Rydym yn gweithio gyda’r bobl ifanc anoddaf eu cyrraedd yn ein cymuned, gan ddefnyddio theatr a’r celfyddydau fel arfau pwerus i gynnal eu llesiant, codi eu hyder ac ymgysylltu â nhw a’u grymuso i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed. Mae pobl ifanc sy’n dod i Mess Up The Mess yn dysgu sgiliau newydd ac yn cael eu hysbrydoli i fynd ymlaen i astudio ymhellach yn y coleg a’r brifysgol. Mae llawer wedi dychwelyd fel oedolion i wirfoddoli a gweithio gyda Mess Up The Mess.
Cynorthwywyd Mess Up The Mess gan gyllid y gronfa ffyniant gyffredin i wneud y canlynol:
Dysgwyd dosbarthiadau meistr mewn sgiliau creadigol gan weithwyr proffesiynol y diwydiant ac roeddent yn cynnwys dylunio llwyfan, goleuo, ymladd llwyfan, cyfansoddi caneuon, gwneud ffilmiau a cholur effeithiau arbennig. Heb gyllid y gronfa ffyniant ni fyddem wedi gallu cynnal rhaglen mor helaeth o hyfforddiant sgiliau ochr yn ochr â’n gweithdai wythnosol craidd.
O ganlyniad i’r cyllid, mae Arts Award bellach wedi’i sefydlu ar draws ein darpariaeth, gyda phobl ifanc yn gallu cyflawni cymhwyster cydnabyddedig am eu dysgu a’u profiad gyda Mess Up The Mess.
Trwy’r prosiect, fe gyflwynon ni 16 o ddosbarthiadau meistr i 46 o gyfranogwyr gwahanol, a chefnogi 31 o wirfoddolwyr ifanc i gyfrannu 1,945 awr o wirfoddoli.
Hyfforddwyd saith aelod o staff i gyflwyno ac asesu Arts Award. Enillodd 17 o bobl ifanc wobr Arts Award ar lefel Explore, ac enillodd 23 wobr efydd. Mewn partneriaeth â Menter Bro Dinefwr, llwyddwyd i gyrraedd 26 o bobl ifanc ychwanegol a enillodd wobr Explore trwy gyfrwng y Gymraeg.
