Padlwyr Llandysul

Enw(au): Gareth Bryant

Swyddogaeth(au)): Swyddog Datblygu Chwaraeon Dŵr

Lleoliad: Llandysul
Gwefan: Padlwyr Llandysul

A allwch chi ddweud ychydig wrthym am eich sefydliad, yr hyn a’ch ysbrydolodd chi i’w ddechrau, a’i rôl o fewn y gymuned leol?

Canolfan gweithgareddau awyr agored bro yn Llandysul, Gorllewin Cymru yw Padlwyr Llandysul. Ein diben yw cynnig cyfle i bobl o bob oed a gallu brofi amrywiaeth o chwaraeon awyr agored, yn enwedig ceufadu a chanŵio.
Ein nod yw hyrwyddo gweithgarwch corfforol, datblygiad personol, ac ymgysylltiad cymunedol trwy antur awyr agored, wrth feithrin gofal am yr amgylchedd a chariad at natur. Ffurfiwyd y clwb yn 1984, ac yn ddiweddarach y ganolfan ganŵio yn 1998. Mae’r ganolfan yn cael ei rhedeg fel sefydliad dielw.

Sut mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi cynorthwyo’ch sefydliad chi, a pha welliannau neu newidiadau penodol yr ydych chi wedi gallu eu gwneud gyda’r cyllid?

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi bod yn allweddol wrth gefnogi Padlwyr Llandysul, gan ein galluogi i wneud gwelliannau sylweddol i’n cyfleusterau a’n gweithrediadau. Gyda’r cyllid, roeddem yn gallu newid ein hen system wresogi olew aneffeithlon am bwmp gwres o’r aer modern.
Mae’r system newydd hon nid yn unig yn fwy effeithlon o ran ynni ond hefyd yn ffynhonnell ynni llawer glanach, gan leihau ein hôl troed carbon a’n heffaith amgylcheddol yn sylweddol. Yn ychwanegol at y system wresogi, gwnaethom welliannau sylweddol i reiddiaduron yr adeilad, gan sicrhau eu bod yn gwbl gydnaws â’r pwmp gwres newydd, a gwnaethom hefyd osod paneli solar ffotofoltäig ar y to. Mae’r paneli solar bellach yn darparu ffynhonnell ynni adnewyddadwy, gan ein helpu i leihau ein dibyniaeth ar gyflenwyr ynni allanol a lleihau ein costau cyfleustodau. Mae’r gwelliannau hyn wedi arwain at arbedion sylweddol ar filiau ynni, gan gyfrannu at gynaliadwyedd ariannol y ganolfan.
Yn gyffredinol, mae’r gronfa ffyniant gyffredin wedi caniatáu i ni wneud y gwelliannau ecogyfeillgar hyn, gan wella cysur ac effeithlonrwydd cyffredinol ein cyfleuster. Mae’r newidiadau hyn nid yn unig yn gwella ein heffeithlonrwydd gweithredol ond hefyd yn cyd-fynd â’n hymrwymiad i gynaliadwyedd a chyfrifoldeb amgylcheddol, gan fod o fudd i’n sefydliad a’r gymuned leol.

Pa effaith y mae’r prosiect hwn wedi’i chael ar y gymuned leol hyd yma, a sut y mae hi wedi ymateb i’r gwasanaethau / gwelliannau yr ydych chi wedi’u cyflawni?

Mae’r gwelliannau diweddar i Badlwyr Llandysul wedi cael effaith gadarnhaol sylweddol ar y gymuned leol. Mae gosod y system wresogi newydd wedi gwneud y ganolfan yn llawer cynhesach ac yn fwy deniadol, yn enwedig yn ystod misoedd oerach y flwyddyn. Mae’r gwelliant hwn wedi’i werthfawrogi’n arbennig gan ein hymwelwyr a grwpiau cymunedol, megis y gymdeithas hanes, sy’n defnyddio ein cyfleusterau’n rheolaidd ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau. Mae cynhesrwydd a chysur y ganolfan wedi ei gwneud yn lle mwy apelgar i bobl ymgynnull a chymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol.
At hynny, mae’r prosiect wedi caniatáu i ni gynnig gweithgareddau ychwanegol ar gyfer ystod ehangach o ddiddordebau. Yn fwyaf arbennig, mae Tîm Slalom Canŵ Cymru wedi defnyddio ein cyfleusterau wedi’u huwchraddio, gan eu galluogi i hyfforddi a pharatoi ar gyfer cystadlaethau mewn amgylchedd mwy cyfforddus a hygyrch. Mae’r gwelliannau hyn hefyd wedi cael effaith gadarnhaol uniongyrchol ar ein rhaglen Canolfannau Clyd, sy’n cynnig gwasanaeth cymdeithasol ac yn cynnig cymorth i drigolion lleol, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf. Mae’r system wresogi newydd wedi gwneud y fenter hon hyd yn oed yn fwy effeithiol, gan gynnig lle diogel a chynnes i bobl sydd angen canolfan gymunedol. O ran yr effaith ariannol, mae’r arbedion o’r costau gwresogi gostyngol wedi cyfrannu at gynnal swyddi yn y ganolfan, gan sicrhau y gallwn gadw aelodau o staff a pharhau i gynnig gwasanaethau gwerthfawr i’r gymuned.
Mae’r arian a arbedwyd ar gostau ynni wedi bod yn fodd o gadw gweithwyr yn uniongyrchol, gan ganiatáu i ni barhau i ddarparu’r gweithgareddau awyr agored o ansawdd uchel a’r rhaglenni sy’n canolbwyntio ar y gymuned y mae ein defnyddwyr yn eu mwynhau. Yn gyffredinol, rhoddwyd adborth cadarnhaol gan y gymuned i’r gwelliannau. Mae pobl wedi mynegi eu diolch am y gwasanaethau ychwanegol a gynigir a’r ffaith ei bod yn fwy cysurus yma, ac rydym wedi gweld mwy o bobl o bob sector yn dod yma, o grwpiau cymdeithasol lleol i dimau chwaraeon proffesiynol. Mae’r prosiect wedi cryfhau ein rôl fel adnodd cymunedol hanfodol, gan sicrhau bod Padlwyr Llandysul yn parhau i ffynnu fel canolbwynt ar gyfer gweithgaredd awyr agored, ymgysylltu cymdeithasol, a chefnogaeth leol.
Hwb