People Speak Up

Enw(au): Eleanor Shaw

Swyddogaeth(au): Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol
Lleoliad: Llanelli
Gwefan: People Speak Up

A allwch chi ddweud ychydig wrthym am eich sefydliad, yr hyn a’ch ysbrydolodd chi i’w ddechrau, a’i rôl o fewn y gymuned leol?


Sefydliad cymunedol yn ymwneud â’r gymdeithas, y celfyddydau, iechyd, iechyd meddwl a llesiant yw People Speak Up (PSU). Rydym yn cysylltu pobl â’i gilydd, yn eu helpu i ddod o hyd i’w llais, ac yn creu cymunedau iachach a gwydn trwy adrodd storïau, y gair llafar, ysgrifennu creadigol, gweithgareddau ar sail sgwrsio, celfyddydau cyfranogol, gwirfoddoli a hyfforddiant.
Mae ein gwasanaethau ar gael am ddim ac yn agored i bawb. Rydym yn cynnal gweithgareddau i gynnal iechyd meddwl pobl a’u gwneud yn llai unig ac ynysig o’n hwb celfyddydau, iechyd a llesiant a’n gardd gymunedol yn Llanelli, o’r Ganolfan Byw yn Dda yng Nghaerfyrddin, ar-lein, a thrwy fynd â’n gwaith i mewn i gartrefi pobl, cartrefi gofal, a mannau cymunedol ledled y De-orllewin.

Gwyliwch ffilm fer amdanom ni yma

Eleanor Shaw - Sylfaenydd & Phrif Swyddog Gweithredol:

“Fe wnes i greu People Speak Up yn 2017, pan oeddwn ar daith yn ailadeiladu fy hun, yn chwilio am fy mhwrpas ac yn ei ddeall. Fe wnes i ddarganfod grym adrodd storïau hunangofiannol a thraddodiadol. Helpodd y broses hon fi i edrych ar fy stori a gwneud synnwyr o fy mywyd. Mae People Speak Up wedi dod yn gyfrwng i fynd â mwy o bobl ar y daith hon. Pan fyddwch chi’n rhoi pobl debyg at ei gilydd mewn gofod—pobl sydd ar daith debyg—mae’r hud yn dechrau digwydd. Pan fydd pobl yn dechrau siarad, maen nhw’n cysylltu, yn dysgu ac yn dechrau teimlo’n ddynol eto. Diolch i’n holl bobl greadigol sydd i gyd yn dod â’u ffurfiau celf a’u pecynnau cymorth eu hunain fel y gall ein cymuned ddod o hyd i’w llais.”

Mae Eleanor Shaw wedi cael cymorth gan UnLtd, a chafodd wobr Merched mewn Menter Gymdeithasol yng Ngwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2023.

Sut mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi cynorthwyo’ch sefydliad chi, a pha welliannau neu newidiadau penodol yr ydych chi wedi gallu eu gwneud gyda’r cyllid?

Mae’r gronfa wedi cynorthwyo twf swyddi, fe’n galluogodd ni i ddatblygu ein gardd gymunedol a chynyddu ymgysylltiad â’n hwb celfyddydau ac iechyd yn y Ffwrnes Fach. Roeddem yn gallu cyflwyno gweithgareddau llesiant creadigol ddwywaith yr wythnos, ac yn ystod gwyliau’r haf, i bobl ifanc yn Llanelli deimlo’n ddiogel, i gael eu hysbrydoli gan greadigrwydd a diwylliant, ac i deimlo’n gadarnhaol am eu tref a’u cymuned. Lledaenodd effaith hyn drwy’r gymuned gyfan. Roedd teuluoedd, ein pobl hŷn a’n partneriaid yn cymryd rhan. Galluogodd y cyllid hwn ein cymuned i ganfod ei llais.

Pa effaith y mae’r prosiect hwn wedi’i chael ar y gymuned leol hyd yma, a sut y mae hi wedi ymateb i’r gwasanaethau / gwelliannau yr ydych chi wedi’u cyflawni?

Mae’r ardd gymunedol wedi’i gwella, rydym wedi cynyddu ymgysylltiad, ac mae mwy o bobl ifanc yn gwirfoddoli gyda ni ar brosiectau eraill.

Buddiolwr y prosiect:

A elli di ddweud ychydig wrthym amdanat ti dy hun a sut beth oedd bywyd cyn i ti ymwneud â’r Ffwrnes?

Dim ond yn y tŷ y byddwn i bob dydd. Doeddwn i ddim yn mynd i’r ysgol rhyw lawer chwaith, a ddim yn gwneud llawer o gwbwl cyn dod yma.

Sut y gwnest ti ddod i ymwneud â’r Ffwrnes Fach? Beth oeddet ti’n gobeithio allai ddigwydd o ganlyniad i hynny?

Digwyddodd e drwy’r ysgol. Daeth fy ffrind yma, a doeddwn i ddim eisiau dod ar fy mhen fy hun felly roeddwn i’n meddwl y byddai’n cŵl i roi cynnig arni. Roeddwn i’n adnabod rhywun yma felly roedd hynny’n help mawr.

O ganlyniad i gymryd rhan, beth wyt ti’n meddwl fu’r newid mwyaf arwyddocaol i ti’n bersonol?

Rwy’n gwneud llawer mwy nawr, a hyd yn oed y tu allan i PSU. Mae e wedi fy nghymell i wneud mwy nag yr oeddwn i cynt. Rwy’n meddwl ei fod wedi helpu fy hyder i. Rwyf wedi cwrdd â ffrindiau newydd. Rwy’n gwirfoddoli nawr hefyd, sydd wedi bod yn wych.
Hwb