Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir

Enw(au): Dr Brian Briggs

Swyddogaeth(au): Rheolwr Gwarchodfa'r Ganolfan

Lleoliad: Llanelli
Gwefan: Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir

A allwch chi ddweud ychydig wrthym am eich sefydliad, yr hyn a’ch ysbrydolodd chi i’w ddechrau, a’i rôl o fewn y gymuned leol?

Mae Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir Llanelli yn gynefin hanfodol i lu o rywogaethau’r gwlyptir. O lygod pengrwn amlwg ond swil y dŵr i weision y neidr sy’n dawnsio uwchben y pyllau â’u campau hedfan, mae pob cornel o’r warchodfa’n gyforiog o fywyd. Mae cynefinoedd gwlyptir y ganolfan a Chilfach Tywyn, sydd o bwysigrwydd rhyngwladol, yn hafan ddiogel i adar mudol ac yn cynnig mannau bwydo a gorffwys hanfodol yn ystod eu teithiau hir.
Agorwyd Canolfan Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir Llanelli gan Syr David Attenborough yn 1991, ar ôl i’r cyngor lleol ofyn am gymorth gan Syr Peter Scott a’i Ymddiriedolaeth & Adar y Gwlyptir i adfer cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt a hybu twristiaeth yn yr ardal.
Mae Canolfan Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir Llanelli yn chwarae rôl hanfodol mewn cadwraeth gwlyptiroedd, gan weithio i warchod ac adfer y cynefinoedd hanfodol hyn. Mae ymdrechion y ganolfan yn cyfrannu at gynyddu bioamrywiaeth a diogelu rhywogaethau sydd mewn perygl yn Sir Gaerfyrddin. Yn un o brif atyniadau twristaidd y sir, mae’r ganolfan yn croesawu dros 60,000 o ymwelwyr a miloedd o blant ysgol bob blwyddyn, gan eu cysylltu â byd natur a hybu llesiant.

Sut mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi cynorthwyo’chsefydliad chi, a pha welliannau neu newidiadau penodol yr ydych chi wedi gallu eu gwneud gyda’r cyllid?

Helpodd y gronfa ni i newid y bont droed adfeiliedig a fu’n cysylltu ein canolfan ymwelwyr â gwarchodfa 450 erw Gwlyptiroedd y Mileniwm am dros 20 mlynedd. Yr hen bont bren oedd yr unig ffordd i ymwelwyr gyrraedd y warchodfa, a chyda dros ddwy filiwn o deithiau wedi bod drosti roedd angen ei hatgyweirio ar frys. Drwy golli’r cyswllt hwn, byddai ein gwarchodfa wedi bod yn anhygyrch, gan gael effaith enfawr ar ein profiad ymwelwyr, gwaith cadwraeth a gweithrediadau busnes.
Fe wnaeth y gronfa, gyda chymorth gan Gyngor Sir Caerfyrddin, ein galluogi i godi pont newydd hyfryd gan ddefnyddio deunyddiau hirhoedlog fel dur a byrddau wedi’u gwneud o blastig wedi’i ailgylchu, yn ymdebygu i bren.

Pa effaith y mae’r prosiect hwn wedi’i chael ar y gymuned leol hyd yma, a sut y mae hi wedi ymateb i’r gwasanaethau / gwelliannau yr ydych chi wedi’u cyflawni?

Mae’r bont newydd wedi creu argraff ar ein hymwelwyr ac rydym wedi cael llawer o sylwadau ynglŷn â pha mor dda y mae’n edrych. Mae ein haelodau, ein staff, a’n gwirfoddolwyr yn arbennig yn gwybod pa mor bwysig yw’r cyswllt hwn i roi mynediad i’n gwarchodfa, felly mae llawer o ryddhad yn ein cymuned bod dyfodol y warchodfa natur wedi’i sicrhau. Mae’r bont newydd wedi ein galluogi ni i gynnal mwy o ddigwyddiadau a gweithgareddau teuluol yn ymwneud â bywyd gwyllt allan yn y warchodfa, ac wedi caniatáu i’n hymweliadau gan ysgolion dan faner ‘Generation Wild’ fynd rhagddynt.
Hwb